Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edlaethol, heb eithrio sect na phlaid. Hwyrach y ceir rhyw ddwsin o'r emynnau—mewn gwisg wahanol, yn "Emynau y Cyssegr," casgliad mawr Mr. Thomas Gee, 1888. Detholais y rhai tebycaf i fod yn ychwanegiad at drysorau emynnol ein cenedl, a chroniclais hwynt yn eu dullwedd wreiddiol a chartrefol. Dyma dywysennau breision o " hen yd y wlad." Gobeithiaf y gwledda miloedd arnynt.

Dymunaf dalu fy niolchgarwch gwresocaf i'r cymwynaswyr hyn am eu trafferth yn holi hen bererinion eu broydd, ac yn anfon at fy ngwasanaeth luaws o'r emynnau,—Meistri John E. Jones (Ioan Gwynant), Rhesdai'r Cambrian, Llanberis; Owain Llew. Owain, Bryn y Coed, Tal y Sarn: Wm. Lewis, Llanbedr, Meirion ; Wm. Ryder (Gwilym Artro), Llundain; J. W. Jones, Cae'r Ffridd, Tanygrisiau; Cenin, a Tom Lloyd. Pwllheli; O. J. Williams (Owain Bryncir'), Penygroes; John Parry, Ty Eiddew, Beddgelert; Wm. Gilbert Williams, Rhostryfan; Robert Williams. Trefriw; John Roberts, Llain Wen Uchaf, Llanberis; Griffith Thomas, Swan, Clynog; Wm. Williams, Dôl Pandy, a John Rhagfyr Hughes, Glyn Ceiriog; Mrs. M. Owen, Talybont, ger Conwy; y Parchn. Wm. Williams (Einon). Rhostryfan: J. Roberts-Evans, Birmingham; J. T. Job. y Carneddi, .Bethesda; Henry Hughes, Bryncir: ac amryw ewyllyswyr da eraill.

CARNEDDOG.
Nanmor, ger Beddgelert,
Ebrill 29. 1905.