Tudalen:Gwreichion y Diwygiadau.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

AMCAN cyhoeddi y casgliad hwn yw dwyn yr hen fynyddoedd ar gof; blynyddoedd deheulaw Duw, ar lawer cyfrif, yn ein cenedl ni. Adlais mwyn, erbyn hyn, yw pob hen emyn yn y gyfrol hon; adlais o orfoledd cenedl wrth deimlo ei bod megis yn codi o farw i fyw. Rhoddant fwynhad ar lawer orig dawel, deuant ag adgofion melus am ryw Sabboth heulog neu odfa rymus. Deuant a hanes gyda hwy hefyd, oherwydd yn y Diwygiadau y deffrodd cenedl y Cymry i fywyd gwell. Diwinyddiaeth yr emynnau yw athroniaeth hanes Cymru; o'i chred mewn etholedigaeth ac iawn y cafodd gwerin Cymru ei hunan-hyder ai phenderfyniad i dynnu'r gwys yn union tua'r pen. "Awel o Galfaria fryn sydd wedi darostwng cewri a chodi'r gwan i fyny: ffafr Duw sydd wedi codi cenedl o'i hisel radd, a rhoddi iddi nerth i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun.

Nid yw y 330 emyn sydd yn y gyfrol hon ond hanner casgliad Carneddog. Os yn dderbyniol, cyhoeddir cyfrol arall o'r un faint a'r un dull. Bydd y casglydd a minnau yn ddiolchgar am emynnau, ac am unrhyw fanylion o'u hanes,—pwy a'u gwnaeth, ac ar ba achlysuron y bu canu arnynt. Hoffwn fedru gwneyd y nodiadau ar waelod y dalennau yn llawnach. Dymunwn hefyd gyhoeddi cyfrol o weddiau y Diwygiadau. Yr oedd y rhai hyn yn darawiadol oherwydd beiddgarwch athrylith, dwyster llethol teimlad, a phurdeb chwaeth. Wele