Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLECH RONWY

Wrth un o feini Cwm Cynfal y cydir stori GRONWY BEBYR
ym Mabinogi Math, a thrwy'r fro y dihangodd
BLODEUWEDD
cyn ei throi yn dylluan.


MI SAFWN gyda'r machlud
Yng nghysgod hir y main,
A gwelwn gochni'r dalar
Yn un â choch y llain.

Ac mi debygwn weled
Y "llech" ar fin y lli;
A gwaed y bradwr arni
Yn cuddio'i glesni hi.

Arhosais dan ganghennau
Y deri yn y cwm,
A'r gwair yn frodwaith rhuddgoch
Gan wrid y machlud trwm.

Ac mi debygwn weled
Y mab, y fun, a'r oed—
A'r gwaed yn lliwio'r blodau
A dyfai wrth fy nhroed.

Fe giliodd coch y machlud,
Daeth llwydni'r hwyr i'r llain,
A chlywn dylluan unig
Yn wylo uwch y main.