Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OED OLAF

A'R hwyr yn cau ar y coed,
A'r lloer ar lannau'r lli,
Ym min yr allt 'r oedd man yr oed
I Men a mi.

A'r eira'n cau ar y coed,
Un hwyr yn gaenen wen,—
Y main a'r ŷw oedd man yr oed
I mi a Men.