Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HIRAETH

BREUDDWYD llwyd y lloer
Yn llonydd ar y lli,
Mor dawel y mordwyem—
Mair a mi.

Heno, trist ar y traeth
Yw'r gwyn o sŵn y gwynt,
Yn holi am anwylyd
Gerais gynt.