Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dau gerdd ar goll sef "Y Cwm" a "Crwydro"

Y PARCH E. GWYNHEFIN THOMAS

Daeth o Gwm Rhondda yn weinidog ar eglwys
Seion (B.) Blaenau Ffestiniog

GWYNHEFIN hygar, di-dwyll ei gariad,
Eilun aur ydoedd a glân ei rodiad;
I Dde a Gwynedd bu'n ufudd gennad,
A gem o arwr tlws ei gymeriad ;
Ei lais a glywir drwy'r wlad—er i angau
Roi clo ar enau oracl yr enwad.