Tudalen:Gwrid y Machlyd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NOSWYLIO

I'w briod, wrth wylio uwchben ei wely.

'Dwy'n malio dim tra pery'r plwc
A'r caethdra, tra bydd hi
Yn gwylio trwy y plygain trwm
Uwchben fy ngwely i.


Tachwedd 1940
Y geiriau olaf a ysgrifennodd cyn marw