Gyda'r Hen Feirdd.
[Yn ystod hirddydd haf, byddis yn dewis cael seigiau ysgafn, blasus, a chyfnewidiadau aml. Felly, detholaf, yn hollol yn ol fy ffansi,—ychydig friwsion o goginiaeth yr hen feirdd,— allan o'm llyfryn llogell. Y maent wedi cael eu casglu o bryd i bryd, o ran cymyraeth ddifyr, o hen lawysgrifau melynion, o hen almanaciau llwydion, ac o wahanol ffynhonellau eraill.
Hyderaf y caiff rhywun arall fwynhad wrth eu darllen, o dan gysgod derwen yn y waen, ar foncyff pren mawnog yn y mynydd, ar fin y ffrydlif yn y ceunant, neu ar ei gadair esmwyth yn ei barlwr yn y dref. Gwir Gymro a garo gerdd."CARNEDDOG.]
I. Y Gafod Ddrwg yn 1542.
Mil a hanner, llownder llu,—dwy a deugain,―
(Da y gwn ced Iesu,)
Pan fu y Gafawd, ddyddbrawd ddu,
Y drwg amrwst drwy Gymru.
—Pwy?
II. Y Deg Gorchymyn.
Arfer o bump, rhif aur borth,
Ymogel y saith, magl swrth,
A gwna'r deg yn di-warth,
A dos i Nef,—dewis nerth.
—RHYS CAIN.[1]
III. Amddiffyniad, wedi i un haeru fy mod yn eilun-addolwr, ar ol imi ddarlunio "Croes Crist."
Yr anuwiol ffol a ffy,—poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied ef, os gwell hynny,
Llun diawl ymhob lle'n ei dŷ.
—RHYS CAIN.[2]
IV. Arwyddion y Tywydd, oddiwrth liw y lleuad newydd.
Gwylied bawb, bob gwlad y boch,
Y lloer lâs, y llawr a wlych;
Llawer o'r gwynt yw'r lloer goch,
Lloer wen ydyw'r seren sych.
—WM. CYNWAL.[3]
V. Cyngor rhag enllibio.
Ymogelwch, gwyliwch goelio—un chwedl,
Na chodi mawr gyffro;
Profwch oes neb yn prwfio,
Neu llunio bai lle ni bo.
—SION TUDUR.[4]
VI. Cyngor rhag sathru llysiau y ddaear.
Sethrir, dirmygir drem agwedd―llysiau
Lluosog anrhydedd;
Eisieu gwybod, wiwglodd wedd,
Mewn tir hên maint eu rhinwedd.
—SION TUDUR, O WIGFAIR.
Arall.
Rhinweddau llysiau a'u llun,—a'u graddau,
A'u gwreiddiau, a'u sygun,
Pe gwypai, ni roddai yr un
Drwy'r deyrnas ei droed arnyn.
—LEWIS AP EDWARD.[5]
VII. Byw yn uniawn.
Di-falchder arfer yw'r yrfa—uniawn
I ennill y rhedfa;
Difalch fydd pob defnydd da:—
Duw i ry—falch rydd drofa.
—SIMWNT FYCHAN.[6]
VIII. Cais Dduwiolder.
Cais dduwiolder per heb ball,—naws anial,
A synwyr i ddeall;
A thi a gei ni thy' gwall
I'th euraw pobpeth arall.
—GUTO'R GLYN (?)[7]
IX. Brenhinbren y Ganllwyd.
Brenhinbren, brithlen berthlwyd,—a mêsbren,—
Grymusbraff y'th roddwyd;
Purion tw', gwych bren teg wyd—
Trigeinllath tŵr y Ganllwyd.
I'th euraw pobpeth arall.
—SION DAFYDD LAS.[8]
X. Y Sigl Faen Mawr.[9]
Ai hwn yw'r Maen, graen gryn:—llwydwyn,
Rhwng Lledr a Machno?
Fe eill dyn unig ei siglo,
Ni choda'n fil a chwe' dyn fo.
I'th euraw pobpeth arall.
—WM. CYNWAL.
- ↑ Yn ei flodau tua 1580.
- ↑ Yr oedd yn fedrus am arlunio.
- ↑ Yn ei flodau o 1560 hyd 1600.Ymladdwr cywyddol ag Edmwnd Prys.
- ↑ O Wigfair, ger Llanelwy. Bu farw yn 1602.
- ↑ Yn ei flodau tua 1568.
- ↑ Trigiannai yn Llanelidan, sir Ddinbych. Bu farw Ebrill 5ed, 1606.
- ↑ Yn ei flodau tua 1540.
- ↑ Bardd teulu i'r Cyrnol Vaughan, o Nannau, ac un parod i yfed cwrw a gwau cynghaneddion ysmala. Yn ei flodau o tua 1650 hyd 1690.
- ↑ A yw y maen hynod hwn i'w weled yn awr rhwng Pen Machno a Betws y Coed?