Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phleser na chyfoeth, ond am ogoniant a gwrhydri, tybiai mai po mwyaf eang y byddai y tiriogaethau a dderbyniai ar ol ei dad, mai lleiaf oll o le fyddai iddo ef arddangos ei hun. Ystyriai ychwanegiad pob talaeth newydd yn gyfyngiad ar y maes fyddai ganddo ef i chwareu arno; oblegyd nid ewyllysiai enill teyrnas a ddygai iddo anrhydedd, moethau, a phleserau, ond un lle y caffai ddigon o ryfela a brwydro, a'r holl ymarferion cyfaddas i'w uchelgais rhyfeddol ef.

Pan ddarfu i Philonicus, y Thessaliad, gynyg y ceffyl Bucephalus ar werth i Philip am dair talent ar ddeg, aeth y brenin, a'r tywysog, ac amryw ereill, i'r maes i'w weled. Ymddangosai y ceffyl yn hynod wyllt ac afreolus, ac ni allai yr un o'r marchweision ei drin, chwaithach myned ar ei gefn. Philip, wedi cythruddo o herwydd iddynt ddwyn y fath farch iddo ef, a orchymynodd iddynt ei gymeryd ymaith. Ond Alexander, yr hwn a ddaliasai sylw yn fanwl ar y ceffyl, a ddywedodd, "Y fath geffyl ardderchog y maent yn golli, o ddiffyg medr ac yspryd i'w drin!" Ar y cyntaf ni wnaeth Philip un sylw o hyn; ond trwy i Alexander ail-adrodd y geiriau amryw weithiau, gan arddangos cryn anesmwythder, ei dad a ddywedodd, "Ddyn ieuangc, yr ydych yn beio rhai hynach na chwi eich hun, megys pe byddech yn gwybod mwy na hwy, neu y gallech drin y march yn well." "Medrwn wneyd hyny hefyd", meddai y tywysog. "Beth fydd i chwi fforffetio, os methwch?" ebai ei dad. "Mi a fforffetiaf bris y ceffyl," atebai Alexander. Ar hyny cydsyniodd ei dad, a nesaodd y tywysog at y march, ac wedi gafael yn y ffrwyn, trôdd ei ben at yr haul-oblegyd sylwasai fod cysgod y march, wrth symud i'w ganlyn fel y symudai ef, yn ei ddychrynu. Wedi ei dawelu trwy ei guro yn ysgafn â'i law, a sisial wrtho, efe a neidiodd yn sydyn ar ei gefn, ac a aeth ymaith ar garlam. Yn mhen ychydig amser dygodd ef yn ol, wedi ei drwyadl feistroli! Philip ei dad a waeddodd allan, wedi iddo ddychwelyd yn ddiangol, "Chwilia am deyrnas arall, fy mab, yr hon a fyddo yn deilwng o dy alluoedd, oblegyd y mae Macedonia yn rhy fechan i ti!"

Pan aeth Philip ar ryfelgyrch yn erbyn Byzantium, nid oedd Alexander ond un ar bymtheg oed, er hyny gadawyd ef yn rhaglaw ar Macedonia, ac yn geidwad sêl y deyrnas. Yn ystod ei raglawiaeth ef gwrthryfelodd y Medariaid, ac ymosodwyd ar eu dinas gan Alexander, yr hon a gymerodd efe, ac a alltudiodd y barbariaid o honi, gan blanu yn eu lle drefedigaeth o bobl a gasglasai efe a wahanol leoedd, ac a'i galwodd Alexandropolis. Efe hefyd a ymladdodd yn mrwydr Cheronea, yn erbyn y Groegiaid, a dywedir mai efe oedd y cyntaf erioed a dorodd "fintai gysegredig" y Thebiaid. Yn ein hamseroedd yr oedd hen dderwen yn cael ei dangos gerllaw y Cephisus, a elwid Derwen Alexander, am fod ei babell wedi ei gosod i fyny oddi tani; a dernyn o dir gerllaw iddi, yn mha un y dywedir fod y Macedoniaid wedi claddu eu meirw.

Darfu i alluoedd y milwr ieuangc beri i Philip fod yn dra hoff o'i fab, a chyda phleser y clywai y Macedoniaid yn galw Alexander yn "frenin,” ac efe ei hun yn ddim ond "cadfridog." Er hyny torodd cynen allan yn fuan yn y teulu, a hyny yn benaf o achos merch; ac fel hyn y bu:—Yr oedd Philip wedi syrthio mewn cariad â merch ieuangc o'r enw Cleopatra, ac er ei fod mewn gwth o oedran, efe a'i priododd. Yn y briodas, tra yr oeddynt yn gwledda, ei hewythr Attalus, wedi ymlenwi o win, a anogodd y cwmni i weddio ar y duwiau ar fod i'r briodas hon rhwng Philip a Cleopatra gynyrchu etifedd cyfreithlawn i'r goron. Alexander, wedi ei gythruddo trwy hyny, a ddywedodd, "Beth! a wyt ti yn awgrymu mai mab orddderch ydwyf fi?" Ar yr un pryd efe a gyfododd, ac a daflodd ei gwpan at ei ben. Ar hyny Philip a gododd ar ei draed, ac a dynodd ei gleddyf; ond yn ffodus i'r ddau, yr oedd y brenin mor feddw fel y syrthiodd ar y llawr. Wrth ei weled, gwaeddodd Alexander, "Wŷr Macedon, gwelwch y dyn sydd yn ymbarotoi i groesi o Ewrop i Asia!