Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iaid, a than gysgod y rhai hyn yr oedd ymosodiadau y gwŷr traed a'r gwŷr meirch braidd yn afrifed. Gwelid colofnau cedyrn yn dyfod allan o bob cwr, y rhai a esgynasant yr ochr ar yr hon yr oedd milwyr Lloegr, ac a ruthrasant a'u holl rym ar eu hysgwariau. Ond er bod magnelau y Ffrangcod yn medi i lawr rengau cyfain o'n bechgyn dewrion, ni oddefid i'r gelyn gymeryd y fantais leiaf ar hyn. Llenwid y bylchau i fyny yn ddioed gan ereill parod i aberthu eu heinioes yn achos eu gwlad; a chlywid Buonaparte yn tori allan mewn canmoliaeth iddynt, drwy ddywedyd wrth y wwyddogion oedd o'i ddeutu, "Onid ydynt yn filwyr dewrion! gwelwch mor odiaeth y cyflawnant eu hysgogiadau, ao y cymerant eu hamrywiol sefyllfaoedd! Y mae yn resyn eu dyfetha, ond myfi a'u trechaf wedi'r cwbl."

YR YMOSODIAD AR LA HATE SAINTE

Try yr ymosodiad yn awr yn erbyn canol ein byddin, ar gyfer Mount St. Jean. Prif wrthddrych yr ymosodiad oedd y tŷ fferm o'r enw La Haye Sainte. Lle o fawr bwys i'r Prydeiniaid oedd hwn. Yr oedd Boni yn meddwl y byddai iddo drwy lwyddo yma, dori drwy ganol y fyddin, a gwneyd ei ffordd i Brussels. Yr oedd y lle ychydig yn mlaen i sefyllfa corph y fyddin, efallai oddeutu 300 o latheni. Ymddiriedwyd ei gadwraeth i'r lleng Ellmynaidd y rhai nid oeddynt yn ol mewn dewrder i oreuon milwyr Prydain. Gwyddai pob ochr yn dda ddigon werth y lle, ac ymdrechasant yn ol hyny, o un tu i'w amddiffyn, o'r tu arall i'w gymeryd. Yr oedd yr ymosodwyr yn gynwysedig o bedair byddin o wyr traed, a mintai anferth o'r cuirassiers yn eu blaenori. Deuodd y rhai hyn yn mlaen ar lawn carlam ar hyd ffordd Genappe, ac yma cyfarfu- wyd â hwynt gan oreufeirch Prydain, ac ofnadwy a dychrynllyd fu yr ymdrech. Yr oedd swn a thrwst eu cleddyfau i'w glywed yn mhell, a hir y buont yn ymladd wyneb yn wyneb, a chledd yn nghledd, nes o'r diwedd i wŷr Ffraingc gael eu llwyr orthrechu. Y pedair colofn o wyr traed, y rhai a ddetholid i wneuthur yr ymosodiad, a ruthrasant yn mlaen drwy bob rhwystrau nes cyrhaeddyd i dy fferm La Haye Saintee, yno gwasgarasant gatrawd o'r Belgiaid, ac yr oeddynt yn y weithred o sefydlu eu hunain yn nghanol sefyllfa y Prydeiniaid, pryd y dygwyd i fyny fyddin y Cadfridog Pack i'w gwrthwynebu. Rhan o'r fyddin Ffrengig, oddeutu yr un amser, a amgylchynasant y ty fferm, a thost a gwaedlyd iawn a fu y gyflafan o'i ddeutu. Ond trwy ryw ddrwg anffawd, fe ddarfu powdwr a bwledau y Lleng Ellmynaidd, yr hyn a roddes i'r Ffrangcod gyfryw fantais ag a'u gwnaeth yn feddianwyr o'r lle. Gwthiasant yr holl Ellmyn i angeu ar flaenau eu bidogau. Yr oedd Buonaparte yn syllu yn graff o'i dŵr gwylio i edrych pa wedd y tröai yr ymosodiad hwn allan, a phan welodd ei wyr yn lwyddo yn eu hymgais yn erbyn y tŷ fferm, yr oedd yn llawn ffrost a gorfoledd, gan benderfynu fod y fantol yn troi o'i ochr, ac y caffai gyflawn fuddugoliaeth. Yn ddioed y mae efe yn anfon brys-negeswyr i Paris, i ddywedyd fod y frwydr wedi ei henill. Dros awr gyfan y parhaodd yr ymosodiad yn amheus, Yr oedd pob ochr yn gyru i fyny fyddinoedd cynorthwyol, a phob modfedd o dir a ystyrid o'r canlyniad mwyaf i'w enill neu i'w golli. Y Cuirassiers a'r Lancers a ruthrent yn mlaen ac a hyrddient eu hunain ar yr ysgwariau. Gyda dewrder digyffelyb, marchogent eu ceffylau o gwmpas yr ysgwâr i edrych a gaent fwlch yn rhywle, ond y cwbl yn ofer. Dro arall deuai ychydig o honynt allan o'u cadres, gan farchog i wyneb yr ysgwâr; a saethu at y swyddogion, a heriaw y milwyr yn ysgoywedd, i edrych a allent eu hanog i danio eu drylliau, fel y byddai i gorph y gadres ruthro arnynt, cyn gallu o honynt ail-lwytho eu drylliau; ond y cyfryw ydoedd dysgyblaeth a dewrder pwyllog y milwyr, fel y dyoddefasant hyn oll heb saethu ergyd.—Cymeriad tŷ fferm La Haye Sainte yw yr unig fantais a gafodd Buonaparte yn erbyn Duc Wellington yn y frwydr waedlyd hon; a nid oedd hyn ond mantais fechan wedi y cyfan. Am fod y lle mor agos i sefyllfaoedd ein magnelau, yr oeddynt yn ymdywallt arno yn y fath fodd dychrynllyd, fel y bu raid i'r cadfridog anfon yn ddioed at Buonaparte i hysbysu iddo fod yn amhosibl iddynt ei gadw, heb gael eu dinystrio oll, heb adael un yn weddill. Cyn pen nemawr, bu raid iddynt ei adael Mae llawer yn barnu fod y frwydr, yn ystod yr ymosodiad ar La Haye Sainte a Mynydd St. Jean yn hynod o amheus. Barnant, pe buasai Buonaparte yn sefydlu magnelau yn ddiatreg ar La Haye Sainte, ac yn dwyn i fyny y milwyr ag oedd ganddo wrth gefn, y buasai braidd yn amhosibl hyd yn nod i dalentau Wellington, na dewrder ei filwyr, eu gwrthsefyll. Ond Rhagluniaeth, er hedd Ewropia, ac ereill ddybenion pwysig, a drefnodd yn wahanol. Yn yr ymgais hon, fel yr holl rai blaenorol, efe a aflwyddodd. Yr oedd y Duc, yn nghanol yr holl derfysg, yn hynod o bwyllus ac arafaidd. Dywedir, pan oedd yn syllu trwy ei yspienddrych ar y fintai luosog a chadarn ag oedd yn wynebu ar Hougoumont, yn