Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

medrai eu traed eu cario. Y mae y cenadwr a anfonwyd yn dywedyd fod awydd y Prwssiaid i ddyfod i gefnogi eu cyfeillion y Saeson, yn fawr dros ben. Fel yr oedd ef, ac un neu ddau ereill o beirianwyr Lloegr, y rhai a anfonasid er eu cynorthwyo i ddyfod yn mlaen, yn marchogaeth ar hyd eu rhengau, anerchid hwy gan y milwyr, "O! sefwch eich tir, ddewrion Brydeiniaid, nes i ni ddyfod yn help i chwi." Ac ni arbedasant na thrafferth, na phoen, na llafur, i brysuro eu hynt. Ond yr oedd y ffyrdd rhyngddynt a Waterloo yn hynod o ddrwg, ac wedi cael eu hagenu a'u cafnio gan y gwlawogydd diweddar, fel yr oeddynt bron yn annheithiadwy, ac yr oedd yr haul wedi gwyro yn mhell yn ei orllewinol chwyl cyn bod iddynt hwy na rhan na chyfran yn ngyflafan Waterloo. Pan ystyriom fod twrf y magnelau yn rhuo yn eu clustiau drwy gydol y dydd, a'u bod, trwy ystod eu taith, yn clywed trin yr ymgyrch, pwy all ddirnad eu hawydd a'u hymegniad i gyrhaeddyd y llanerch?

O'r diwedd, gwelai y Prydeiniaid rhyngddynt a'r goleuni, y drum ar eu cyfer yn cael eu llenwi â gwŷr meirch, y rhai a ymddangosent fel cymylau duon yn tywyllu y terfyngylch; ac am fod ein gwyr meirch ni yn barod i'w derbyn, tybid yn gyffredinol drwy y fyddin y cymerai ymdrech le rhwng y rhai hyn yn gyntaf, ac na chai y gwŷr traed ddim i'w wneyd ond bod yn edrychwyr. Ond yn fuan fe symudwyd y cam- gymeriad drwy i un o swyddogion Ffrainge ddyfod trosodd at ein byddin ni, yr hwn a hysbysai i'r Due Wellington fod ymosodiad cyffredinol ar gael ei wneyd, bron ar yr un amser, ar y ddeau, y canol, a'r aswy. Ymddengys mai ymgais penaf y Duc oedd gallu sefyll ei dir hyd oni ddeuai y Prws- iaid, y rhai, drwy chwanegu at rifedi ei filwyr, a chwyddai ei fyddin i fwy o nifer na'r Ffrangood. Dysgwylid hwy oddeutu unarddeg neu ddeuddeg o'r gloch, ond oherwydd bod y ffyrdd mor ddrwg, fel y soniwyd, ni ddaethant hyd yr hwyr. Yr oedd Buonaparte, o'i du yntau, yn gobeithio y byddai iddo, drwy ei ymosodiadau ffyrnigwyllt a diderfyn, ddadymchwelyd y Prydeiniaid cyn i'r Prwasiaid ddyfod i fyny. Yna yr oedd yn tybio y cai hamdden i ddinystrio byddin Blucher, trwy ymosod arni tra ar ei thaith yn dyfod i gynorthwyo y Prydeiniaid. Ymddiriedai aden aswy ei fyddin i'w frawd Jerome, yr hwn a ystyriai yn filwr tra enwog; ei chanol i Gount Reille a D'Erlon; a'r aden ddeheuol i Gount Loban. Yr oedd y ddau flaenor, o'u hamrywiol sefyllfaoedd, mewn cyflawn olwg o'r holl faes; ac mor agos oedd y ddwy fyddin at eu gilydd fel yr oeddynt yn gweled yn eglur bob ysgogiad o eiddo y naill neu y llall. Yr oedd Buonaparte yn bwriadu agoryd y frwydr hon fel y byddai arferol, drwy gadw ei osgorddion wrth ei law, fel y byddai iddo ymosod gyda hwynt, wedi i aml a mynych ruthr colofn ar golofn, a mintai ar fintai, wanychu a digaloni ei elyn. Ond nid oedd ei ysgogiadau mor gyflym ag y buasai yn dysgwyl. Yr oedd ei fyddin wedi dyoddef yn drwm oddiwrth y dymhestl y noson o'r blaen; ac yr oedd llawer o'r milwyr ar eu taith drwy y nos, ac ni ddaethant i ymuno a'r fyddin ar La Belle Alliance hyd 10 neu 11 o'r gloch fore y deunawfed. Wrth weled eu colofnau yn gwau drwy eu gilydd ar hyd y llechwedd ar eu cyfer, rhai yn troi i'r dde, ereill i'r aswy, ac ereill yn trefnu eu hunain yn y canol, yr oedd ein byddin ni wedi ei llenwi â rhyw ddystawrwydd pryderus. Dysgwylient yn awyddus i edrych pa bryd, ac o ba gar, y deuai yr ymosodiad cyntaf.

DECHREUAD YR YMOSODIAD.

O'r diwedd gwelent y gwŷr meirch, y rhai o'r blaen oodd fel cymylau rhyngddynt a'r goleuni, yn symud i waered; ac am 11eg o'r gloch, ar yr un munudiau ag yr oedd sain heddychlawn y gloch Eglwys yn galw eu cydwladwyr yn Mhrydain i addoli Duw ar ei ddydd, yn ei deml a'i gysegr, seiniad udgyrn, curiad tabyrddau, rhuad magnelau, ac anferth drwst parotoadau rhyfelgar oedd yn llenwi eu clustiau hwy ar faes Water- loo. Dechreuodd y frwydr drwy gyflegriad dychrynllyd o du y Ffrangood, dan gysgod yr hwn yr oedd Jerome Buonaparte i arwain mintai luosog, yn nghylch 30,000 yn erbyn Hougoumont. Yr oedd yr ymosodiad hwn wedi cael ei drefnu gan yr Ymerawdwr ei hun, ac yn cael ei wneuthur o flaen ei lygaid. Gwyddai fod y lle hwn o'r pwys mwyaf i'n byddin ni, a'r fantais annhraethol a ddeilliai iddo o'i gymeryd; ac y mae yn ddiameu na adawwyd dim a allai dyfais a dewrder ei ddychymygu er gwneuthur y rhuthr yn llwyddiannus. Mor ffyrnigwyllt ac arswydus oedd yr ymosodhad fel yr ysgubasant o'u blaenau y milwyr tramor, sef Nassau Usaingen, y rhai oodd yn y coed o flaen Hougoumont, a rhuthrasant yn mlaen, gan ddadymchwel pob rhwystr, hyd nes y daethant at lidiart y farmyard, lle yr oedd dosparth o'r Gosgordd- ion Seisonig yn barod i'w derbyn. Wedi eu dyfod yn lled agos, taniasant arnynt eu holl ddrylliau ar un waith yr hyn a arafodd eu camrau; a'r rhai a anturiasant yn