Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES
LLANGEITHO A'I HAMGYLCHOEDD.

Y MAE Eglwys Blwyfol Llangeitho yn sefyll yn nghantref Penarth, yn agos i ganol sir Aberteifi, mewn dyffryn tra phrydferth, yn Esgobaeth Ty-Ddewi, ac ar yr ochr ddëau i afon Aeron.

Yr ochr arall i'r afon y saif pentref Gwenfyl, a Chapel y Trefnyddion Calfinaidd, y rhai sydd yn mharcel Gwenfyl, plwyf Llanddewibrefi ; ond yr arferiad cyffredin yw galw yr Eglwys a'r pentref wrth yr un enw, sef LLANGEitho. Pellder Aberystwyth o Langeitho yw tuag 16 milltir i'r gogledd ; Trefgaron ar y tu dwyreiniol, oddeutu 4 milltir ; Llanbedr Pont Stephen ar y tu deheuol, tua 9 milltir ; ac Aberaeron ar y tu gorllewinol, tua 14 milltir. O'i hamgylch hefyd y mae amryw bentrefydd, megys Llanddewibrefi, Talysarn, Llanddewi Aberarth, Llannon, &c.

Llangeitho sydd air cyfansawdd, o Llan a Ceitho. Fe elwir Llan ar yr eglwys, yn nghyd â'r lle cysegredig (sef y fynwent) sydd o'i hamgylch; ond ystyr y gair Llan yw cauadle, fel per-llan, cor-lan, yd-lan, &c.

Sylfaenid lluaws o eglwysi yn foreu yn Nghymru, a rhoddid enwau eu sylfaenwyr arnynt, megys Llandeilo, oddiwrth Teilo; Llangeitho, oddiwrth Ceitho, &c. Yn ol tystiolaeth Bede, ymddengys mai eu dull o gysegru man