Fel y nodwyd, syrthiodd yr hen gapel rywbryd yn yr 17eg ganrif; ond nis gwyddom yn iawn paham nas cafodd ei adeiladu drachefn. Cafodd ei gyflwyno i Gwenfyl Santes,—nid yw yn hysbys pa bryd. Yr oedd Gwenfyl yn byw rhwng y blyneddoedd 433 a 464.[1] Yr oedd Gwenfyl hefyd yn un o bedwar o blant, sef Gwynau, Gwynws, Callwen, a Gwenfyl. Capel Gwynws yw Llanwnws, yn y Sir hon; a bernir mai efe oedd ei sylfaenydd. Y mae rhai o'r farn fod y ddau frawd a'r ddwy chwaer uchod yn blant neu yn wyrion i Brychan Brycheiniog; ond os nad oeddynt yn berthynasau mor agos, cyduna y rhan fwyaf eu bod wedi hanu o hono. Cofwyl Gwenfyl yw Tachwedd 1.
Nid ydym yn meddwl i Langeitho gael ei hynodi gan Dderwyddiaeth na Phabyddiaeth; ond os cafodd, gorwedd yr hanes mewn anghof. Sefyllfa y Mynachdy agosaf yma oedd tua 10 milltir i'r gogledd, yr hwn a elwid Ystrad Fflur; a'r Gwyryfdy agosaf oedd Llanllyr, tua 6 milltir i'r gorllewin, yr hon hefyd oedd gell o dan Ystrad Fflur, ac a berthynai i urdd y Lleianod Gwynion. Gan fod Llangeitho rhwng y ddau le a nodwyd, diamheu fod llawer o dramwy drwyddo o'r naill i'r llall.
Hefyd, nid oes genym hanes i Langeitho fod yn faes y gwaed pan fu y Rhufeiniaid yn ymladd â'r Cymry, neu pan fu y Cymry yn ymladd â'u gilydd. Er hyny, y mae yn hawdd genym feddwl fod ambell i Gymro twymgalon, pan yn amddiffyn ei wlad rhag gormes y gelynion, y rhai a adeiladent eu gwersylloedd ar hyd y wlad, yr hwn, wedi ei glwyfo, a chwiliai am loches ar y bryniau neu y bronydd gerllaw i dynu yr anadliad olaf. Ac os
- ↑ Rees's Welsh Saints, p. 153.