Llwynrhys, a hyny ar hyd nos, rhag ofn cael eu hyspeilio a'u carcharu. Yr oedd yn byw yno hefyd y pryd hwnw gynghorwr o'r enw Dafydd Jones, tad y Parch. Dafydd Jones, Llanbadarnfawr, un o'r ddwy fil Offeiriaid a drowyd allan o Eglwys Loegr yn amser Charles II.; ac yr oedd y diweddar Mr. Peter Davies, Glyn, yn y bumed llinach o Dafydd Jones, Llwynrhys. Yr oedd cyrchu i Llwynrhys o Rhydfendigaid, Cellan, Cilcenin, &c. Yn y flwyddyn 1689, daeth Deddf y Goddefiad; a'r pryd hwnw, mae'n debyg, yr helaethwyd tŷ Llwynrhys—y rhan hono o'r adeilad a elwir "y croes," a hyny ar draul y gynulleidfa; a pharhaodd yn lle o addoliad am oddeutu 60 mlynedd. Wrth helaethu y ffenestr, er ys ychydig o flyneddoedd yn ol, cafwyd bathodyn yn y waal, a dyddiad Charles II. arno. Tybir mai eiddo mab Dafydd Jones ydoedd, yr hwn oedd yn ngwasanaeth y Brenin ar y pryd hwnw fel milwr; ac oherwydd iddo enill ffafr y Brenin, iddo gael breinteb ganddo i'w dad bregethu, ar yr amod iddo bregethu yn ei dy ei hun yn unig.[1]
Wedi marw Mr. Jones, cododd Duw wr boneddig, perchenog llawer o dir, o'r enw Philip Pugh, i fod yn weinidog iddynt. Yn y flwyddyn 1753, adeiladwyd capel bychan, à thô brwyn iddo, o'r enw Llwynpiod, (cafodd ei enw oddiwrth y ffermdy y safai arno,) a symudwyd yr eglwys o Llwynrhys iddo. Adeiladwyd capel bychan arall yn Blaenpenal, cartrefle Mr. Pugh. Y ddau gapel a adeiladwyd ar draul Mr. Pugh ei hun. Safai capel Blaenpenal ger y ffermdy a elwir Hendref, ac yr oedd yn dŷ certi yn y flwyddyn 1823. Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr tanllyd iawn, yn ateb i'r oes yr oedd
- ↑ Gwel hanes mab D. Jones yn y Geiniogwerth, Cyf. IV., t. d. 256.