Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar ol urddo, gwrthodai yr hen bobl drachefn gymeryd y cymun gan neb ond rhai o'r Urdd ESgoBawl. Daeth cyhoeddiad y Parchn. T. Charles, Bala, a Dafydd Rees, Llanfynydd, yno yr un Sabbath. Penderfynodd yr hen bobl i Mr. Charles gael cyfranu, oherwydd ei fod o'r urdd Esgobawl, ond na chai D. Rees; ond gwrthododd Mr. Charles, ac aeth â'r peth dan sylw y Gymanfa, a gorfu iddynt hwythau ymostwng. Y cyntaf a gyfranodd iddynt yn y drefn newydd oedd y Parch. E. Richard, Tregaron. Tywalltodd Duw ei Ysbryd mor nerthol y tro hwn, fel nad ynganasant un gair yn ei erbyn byth mwy.

Tua 1800, daeth Offeiriad i Cilpyll o Bristol, o'r enw John Williams, a dechreuodd sefydlu ysgol er dysgu darllen y Bibl ar hyd y gymydogaeth—dyna ddechreuad yr Ysgol Sabbathol yn y gymydogaeth hon. Bu Dafydd Evan Hugh hefyd yn llafurus iawn gyda'r ysgol. Ar ei al ef cymerodd Mr. D. Jones, Dolebach, y gorchwyl mewn llaw, yr hwn sydd yn fyw eto. Yr oedd Mr. Jones hefyd wedi bod yn yr ysgol gyda'r ddau flaenorol, ac oherwydd hyny gelwid ef yn Chaplain Dafydd Evan Hugh. Un dylanwadol iawn hefyd gyda'r Ysgol Sabbathol oedd y diweddar Mr. Davies, Glyn, a bu ei farwolaeth yn golled fawr i'r sir.

"LLANGEITHо—dyma lanarch hardd,
Gall bardd i dawel orphwys,
A gofyn gyda theimlad llon,
Ai hon yw gardd Paradwys?"



ARGRAFFWYD GAN P. WILLIAMS, ABERYSTWYTH.