Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo ef, a dyna un o'i ddywediadau,-"Ni cheir yn fuan gymaint ag un meddwyn o Gaergybi i Gaerdydd, o Lanandras i Dŷ Ddewi, er chwilio am dano â lanternau!"

Bu Richard Bonner yn bleidiwr aiddgar i ddirwest yma ac mewn mannau eraill. "Siaradai'n bwyllog, ond yn fachog iawn, a phryd na ddisgwylid deuai rhyw air cyrhaeddgar, gwawdlym, a dorrai hyd yr asgwrn. . . .Er ei fod yn finiog ei ymadroddion, eto yr oedd yn hynod o ddidramgwydd, a'i dynerwch yn peri ei fod yn annwyl gan bawb." (Diwyg. Dir., t. 203).

Siaradwr effeithiol ar ddirwest oedd William Thomas, brawd Owen Thomas, er y cymerai arno na ddeallai mo'r disgrifiad hwnnw ohono'i hun, cynrychiolydd dawnus a phoblogaidd yr Alliance am lawer blwyddyn. Fe ddywedid gynt y bu ef hun dros gyfnod yn yfwr anghymedrol, ac yr oedd rhyw gymaint o ôl hynny, debygid, yn aros ar ei wynepryd. Fe enillodd ryw gymaint drwy'r profiad hwnnw, gan y rhoes hynny naws argyhoeddiad yn ei gyfarchiadau, a grym yn ei apeliadau fel oddiar brofiad ar brydiau, a chyfarwydd-deb ynglyn â'r fasnach yn y ddiod ac arferion llymeitwyr, nas gallesid mo'i gael yn hawdd heb hynny. O'r ochr arall, fe gollodd rywbeth: yr oedd ynddo weithiau gyffyrddiad mwy gerwin nag yn ei frodyr, a llai coethter, a thôn ac ysbryd llai nawsaidd. Fel enghraifft ohono gellir cyfeirio at amgylchiad ynglyn âg ef ar y Maes yng Nghaernarvon ddwy flynedd neu dair yn rhagor na hanner canrif yn ol. Yr ydoedd ef ac eraill ar wagen ar y Maes, a phapurau yn grogedig wrthi yn mynegi mewn argraff fras amcanion yr Alliance. Cyn dechreu'r areithio, wele deiliwr bychan o faintioli, a breswyliai yn Stryd Hole in the Wall gerllaw, yn amlwg dan ddylanwad diod ar y pryd, ond fel ag i fwyhau ei fywiogrwydd naturiol, yn troedio'n gymhenllyd, megis yn ochelgar, a chan godi ei droed yn uchel, fel ceiliog ar farwor, ar y palmant gyferbyn; ac, yn y man, mewn llais uchel, yn dechre arllwys ei wawdiaeth a'i gynddaredd ar y siaradwyr a'r pwnc yr oeddid yno o'i herwydd. Ond heb adael iddo faldordd dim yn hwy, dyna William Thomas yn rhoi llam ymlaen oddiar ei eistedd ar y wagen, a'i wyneb yn dân, a'i fraich yn estynedig allan, a'i fŷs yn syth ymlaen yng nghyfeiriad y "teiliwr bach meddw," fel y galwai ef. Tebyg bod y ddau yn adnabod ei gilydd, ac mai'r adnabydd-