116 METHODISTIAETH ARFON. Ar ei ol yr oedd Owen Thomas ar Eseciel xviii. 31-2: Dychwelwch [Trowch ar ymyl y ddalen] gan hynny a byddwch fyw. Yr anobaith a'r gobaith oedd cnewyllyn y pwnc: yr an- obaith ar ryw olwg o eiddo Dyn arno'i hun; y gobaith yn nhrefn Duw. Wedi eglurhad goleu ar y geiriau yn yr ystyr gyntefig, yna'r cymhwysiad yn yr Efengyl. Ac fel yr elai ym- laen ar y llinell honno, ae dull y pregethwr yn y man yn llym- danbaid a'i lais yn treiddio ymhell. Erbyn canol y bregeth, Troi a byw oedd y pwnc; ac yr oedd y geiriau troi a byw wrth eu mynych adrodd yn atsain yr awyr, a'r creigiau yn y pellter, fel y dywedid. Lledaenid hanesyn am ryw Sais a glywai'r geiriau oddiar y bryn gerllaw, a chan ymdeimlo â'u dwyster, a holodd wedi hynny ynghylch eu hystyr, ac iddo, fel y dywedid, brofi argyhoeddiad meddwl drwyddynt. Yr oedd tôn gymhell- iadol angerddol yn y llais bob tro yr adroddid y geiriau-troi a byw! Ac fe'i dyblid ac fe'i treblid, a dywedid hwy ar bedwar gwaith a phum gwaith; ac yr oedd pob adroddiad o'r geiriau. yn ddwysach ac angerddolach a mwy cymhelliadol-troi a byw! Fe eglurid nad oedd ond y gair troi yn unig yn y gwreiddiol, a throi yn unig oedd y meddwl; ond yr ydoedd yn ddealledig fod bywyd yn gynwysedig mewn troi. Nid oedd modd peidio âg achub o du Dduw ond troi o ddyn. Ac yn awr y mae'r pregethwr am ysbaid yn gweiddi'n gymhelliadol,-Trowch, trowch! Nid oedd y gair yma mor uchel-seiniol, ac ni ddelid cyhyd uwch ei ben. Er hynny fe barhae i ddod yn gryf, yn ddifrif,-Trowch, trowch! A sicrheid nad oedd neb wedi myned yn rhy bell i droi, nad oedd neb wedi myned mor agos i uffern nas gallasai droi. Yna gweiddi allan,-Trowch, trowch! Ciliodd y pregethwr gam neu ddwy yn ol, ac yna rhuthro ymlaen at yr ymyl, gan dynnu ei gôt yn dynn am dano fel y troai ar ei sawdl, a dechre dod yn ol. Troi drachefn at y gynulleidfa a gweiddi,-Trowch, trowch! Yr ydoedd cyffro nwyd ar yr eithaf ynddo ef ei hun, ac yr oedd y dynwarediad yma ar y troi wrth ymyl y dibyn yn berffaith. Yr oedd David Charles Davies yn eistedd wrth ymyl y banllawr ar y chwith yn agosaf i'r pregethwr, ac yr oedd yn amlwg wedi ei drydanu gan yr adroddiad. Yr oedd efe yng nghynhebrwng Owen Thomas ac yn cyfarch y gynulleidfa. Ei ddarnodiad o'i bre- gethu ydoedd "gweinidogaeth y lefelu," sef y dyn o'r meddwl. mawr a'r dyn o'r meddwl bach ill dau ar yr un lefel gerbron y
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/148
Gwedd