Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid yw fe'n ceisio danfon cysur,
I foddio byd a chnawd a natur;
Mae weithiau groes ragluniaeth amlwg
Wna i ddynion wylo'n dda'n ei olwg; . . . .

Mae'r flwyddyn hynod hon i'w chofio,
Wrth rif blynyddoedd Brenin Seilo,
Dau cant arbymtheg, wyth deg weithian,
A dwy i edrych—dyna ei oedran.

A bod yr awdwr yn ymdeimlo yn ddwys â'r angen am ym— ostyngiad meddwl yn wyneb yr amgylchiadau sydd yn amlwg ymhellach oddiwrth linellau arweiniol o'i eiddo:

Mae achos inni bwyllo a sobri.
A phlygu y leni i lawr
Gwrthrychau hynod sydd i'w canfod,
Bob diwrnod yn rhyfeddod fawr.

Nid anhawdd meddwl bod rhyw iàs o gyffelyb deimlad yn yr eglwysi yn y wlad, a bod gan hynny ei effaith mewn rhan yng nghynyrchiad y diwygiadau nerthol y gwyddis eu bod mewn mannau yn ystod y blynyddoedd hynny, diwygiadau y profodd Robert Roberts, yn un, ddylanwadau nerthol drwyddynt yn ystod y blynyddoedd cyn dechre ohono ar y gwaith o bregethu.