Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/270

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Daeth Thomas Phillips, brawd i John Phillips Bangor, yma yn 1859; peidiodd â phregethu yn 1864. Mae cyfeiriad ato fel ysgolfeistr ynglyn â'r Capel Coch. Daeth Dafydd Jones yma o Dreborth yn 1867; bu farw yma, Mehefin 23, 1868, yn 63 oed. (Edrycher Moriah a'r Graig). Daeth John Jones yr Abercin yma yn 1869. Symud i Dreborth yn 1870.

Dechreuodd Robert Roberts bregethu yma yn 1860, a bu yma rai blynyddoedd, Tydweiliog wedyn fel cynt; Thomas Hughes yn 1862, wedi hynny yn y Tabernacl, Môn; Edward Roberts yn 1865, yn niwedd 1889 symud i Golwyn Bay; J. R. Jones yn 1896.

Daeth P. W. Jones yma fel bugail yn 1871 o Dregynon, symud i Benygroes, Llanllyfni, yn 1875 (edrycher Penygroes); S. T. Jones yn 1882 o Edeyrn, symud i'r Rhyl, Hydref, 1883; Thomas Pierce yn 1891, symud i Lanidloes yn 1895; William Mathews, M.A., yn 1896 o'r Graig.

Fe ddywedir yng nghofnod y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Capel Curig am Mai 10, 1858, ymherthynas â'r diwygiad yn Llanfairfechan, fel yma : "Wedi claddu'r ddau hen frawd goreu oedd yno, yr hyn a barodd dristwch nid bychan inni. Cynhelir tri chyfarfod gweddi ar nos Lun, ac mae'r teuluoedd yn cloi eu tai er mwyn cael myned iddynt. Un neu ddau o'r teulu yn dod i'r society, wedi hynny y plant, a'r plant yn cynghori eu rhieni, nes mae rhai yn awr yn dyfod bob wythnos o hyd, fel yr anifeiliaid i'r Arch. Pobl ieuainc ydynt bron i gyd, o 17 i 25 oed. Arosant yn y capel hyd y bore heb flino os cânt. Ni wyddom pa fodd y daeth heblaw mai o'r Nefoedd. Mae wedi altro y rhai ieuainc oedd o'r blaen yn y society. Maent yn tynnu'r Nefoedd [i lawr] wrth weddio. Mae eu nifer oddeutu 80, ac mae'r ardal wedi newid drwyddi draw-neb hyd y ffyrdd a'r llwybrau-16 yn aml yn gweddio ar ol ei gilydd."

Mae'r ysgrifennydd yn y Drysorfa am Mehefin, 1858, yn egluro cysylltiad y ddau hen flaenor â'r diwygiad, a hwythau wedi ymadael â'r fuchedd hon, y naill ym Mai a'r llall ym Mehefin o'r flwyddyn cynt. Y pryder a'r tristwch a barodd eu hangeu hwy fu'r achos i'r eglwys yma fyned i gynnal cyfarfodydd gweddiau, bump neu chwech yn yr wythnos. Mae'n amlwg fod y neb a roes hanes y diwygiad yn y Cyfarfod Misol wedi cyfeirio at eu hymadawiad fel yr achos am y pryder a barodd gynnal y cyfarfodydd. Ni chesglir ddarfod i'r cyfar-