Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES METHODISTIAETH ARFON.

BANGOR A'R CYLCH.

ARWEINIOL.[1]

MAE Matthew Arnold yn ei On the Study of Celtic Literature yn son amdano'i hun yn treulio rhai wythnosau o'r haf yn Llandudno. Fe ddywed fod y bau dwyreiniol a edrych i gyfeiriad Nerpwl, ac a amddiffynnir gan Ben y Gogarth a Thrwyn y Fuwch Hwyliog, yn ddeniadol yr olwg gyntaf arno, ond yn y man heb ddigonni'r teimlad, y môr heb dlysni, y gorwel heb ddirgelwch, y glanau heb wyrddlesni, a'r olwg yn gyffredinol yn dangos gormod moelni a chraster. Wrth edrych tua'r gorllewin wele bopeth yn ymnewid! Dros aber y Gonwy a'i thywod, wele'r goleu tyner, ysgafnaidd! a'r gorwel yma yw llinell isel Fôn gyfrin, a'r Penmaenmawr serth, a thwrr mawreddus Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd a'u brodyr yn diflannu, fryn ar ol bryn, yn y tês awyrol; a chydrhwng gwaelod

  1. Ysgrif ar Fangor, Gwyliedydd, 1832, sef cofnodion eglwysig yn o lwyr. Hanes eglwys gadeiriol Bangor, Golud yr Oes, 1864. Atgofion Hen Glochydd yr Aber, drwy law'r Parch. Morris Thomas, M.A. Ysgriflyfr Syr Henry Lewis, yn cynnwys nodiadau ar Fangor a'r Cylch. Y Tabernacl, [Syr] Henry Lewis, 1907. Y Diwygiad Dirwestol, J. Thomas, D.D., 1885. Life and Speeches of J. H. Cotton, W. Hughes, 1874. Cofiant Owen Thomas, Iolo Carnarvon, 1912. Gwaith John Thomas, argraffiad O. M. Edwards. Cofiant John Phillips, W. J. Owen, 1912. Llawysgrif barddoniaeth, 1822-3. Llawysgrif cerddi, 1851-2. Atgofion Gwyneddon, Drysorja, 1893, t. 17. Atgofion Plenydd ar ddirwest yn y cylch. Nodiad gan y Tad Quinn. Britannia, Camden, argraffiad Gough, 1789. Teithiau'r Dr. Samuel Johnson, Wyndham, Warner, Bingley, John Evans, Edward Pugh, Roscoe, Borrow. Gwibdaith drwy Fôn ac Arfon, Edward Matthews, Traethodydd, 1856, t. 102. Bangor Illustrated, Bangor Traders Association [1921]. North Wales, Ward, Lock & Co. Old Memories, Syr Henry Jones [1922]. Ymddiddanion.