Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dymunwn dy urddiad yn ddwbwl i'th ddawn
I gyflawn weinyddu dy orchwyl yn llawn,
Heblaw'r arddodiad dan ddwylaw rhyw ddyn,—
A derbyn eneiniad Duw hynod ei hun.
Lle bynnag y byddoch't mewn ardal yn byw,
Gofala am gymdeithas ddiddanus dy Dduw;
Ac felly cei ddianc rhag profiad a bråd
Cyffelyb i hiraeth Cymro am ei wlad.

Mae lle i gasglu fod lliaws, neu'r rhan fwyaf, o'r cym— deithasau cymreigyddol wedi edwino'n llwyr cyn canol y gan— rif, canys nid oedd cof am danynt erbyn hynny gan yr ieuainc, er yn ymddyddori yn y cyfryw bethau, ac yn preswylio mewn mannau lle sefydlwyd hwy. Ond dyma gerbron mewn llaw— ysgrif cerddi gân a gyfansoddwyd i'w hadrodd, debygid, mewn cymdeithas gymreigyddol yn y rhanbarth yma, neu ynte ar ei gwrr, er na wyddis mo'r amseriad ymhellach na'i bod ymhlith pethau a gyfansoddwyd yn 1851—2. Dyma ei dechreu:

Dewch Gymreigyddion, y Brython da'ch bri,
I gofio'ch hen dadau da raddau diri;
Rhaid i chwi gydnabod, bob aelod yn bur,
Nad ydyw gwâg rodres coeg Saesneg ond sur.
Plant Gymru da'u rhyw, boed llwyddiant i'n llyw,
I gadw'n harferion tra byddom ni byw.

Nid yw ceisio ysbio i mewn i ffawd yn beth mwy dieithr yn awr nag ydoedd y pryd hwnnw, ond bod ffordd dynion yn awr ynglyn â hynny ryw gymaint yn wahanol. Ni welwn ninnau rywbeth o nodwedd yr hen bobl wrth ysbio arnynt hwythau uwchben y dirgelwch yma. Dyma gyngor, o'r llaw— ysgrif cerddi y cyfeiriwyd ati, i hen wrachiod a elai o amgylch i wlana i'r Waun Cwm Brwynog, ymhlith lleoedd eraill, ar y pa fodd i fwyhau eu henillion wrth ddweyd tesni yn chwanegol at y gwlana:

Mae gennyf gynghorion a ffeindiff eich ffair,
Nid rhaid i mi grybwyll i gall onid gair.
Rhaid i chwi'n ddifisio a lwyddo yn y wlad
Gael lot o oraclau neu daclau'r hen dad [sef diafol],
A throi'n ffortun telar whether or not
Oes gennych i'ch canlyn hen lyfr Dic Smot.