Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

duwiolfrydig. . . . Yr oedd rhyw naws ac eneiniad rhyfeddol ar ei weddïau, teuluaidd a chyhoeddus. Yr wyf fel yn clywed eu hadsain yn fy nghlustiau hyd heddyw. Eto yr oedd ei grefydd yn berffaith rydd oddiwrth gulni hunanol, gorfanylwch, a phob math o ffug—sancteiddrwydd Phariseaidd. Gwisgai wedd hynod o naturiol a dymunol. Yr oedd efe ac Eryron yn gyfeillion mawr er yn fechgyn a chafodd y ddau eu bedyddio yn ddwfn i ysbryd diwygiad 1818. Eto yr oedd fy nhad yn nodedig o rydd oddiwrth bob rhagfarn henafol: cymerai olwg eang ar bethau, yr oedd ei feddwl yn ieuengaidd, ac yn llawn ysbryd diwygio, a myned ymlaen gyda'r oes ym. mhob peth da hyd y diwedd. . . . Bu farw mewn tangnefedd heddychol, Awst 6, 1865, yn 62 mlwydd oed. Pan daenwyd y newydd am ei farwolaeth yn y dref, yr oedd rhai o anuwiolion pennaf y dref yn wylo, gan ofyn, 'Pwy a gawn ni i'n rhybuddio a'n cynghori bellach."" (Cofiant Eryron, t. 258.) Mab sydd yma yn llefaru am ei dad; ond yr oedd y traddodiad am Edmund Parry fel gwr o gynneddf gref a chymeriad uchel. Robert Roberts, Penrallt Ogleddol, a fu farw yn 24 oed. Hyddysg yn yr ysgrythyr, ac yn ddiwyd yn hel gwybodaeth ar gyfer ei ddosbarth. Magwyd ef yn yr eglwys hon, a mawrhae ei fraint. Adnod y pwysleisiai arni yn fwyfwy hyd y diwedd oedd honno, Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Gwr ieuanc a ymserchodd yn fawr yn ei ddosbarth ydoedd, a'i ddosbarth ynddo yntau. (m. Rhagfyr 5. 1846. Drysorfa, 1847, t. 63.) Ebe Mr. Griffith Parry (Llanrug) am Richard Prichard: "Hynod dduwiol a neilltuol o afaelgar mewn gweddi. Ei hoff bennill, Daeth trwy ein Iesu glan a'i farwol glwy." Ac am Griffith Pritchard: "Cymeriad hynod, heb fod fel y cyffredin ohonom, ond yn hynod o afaelgar ar weddi,—ei lais yn wefreiddiol iawn, ac yn llenwi'r capel. Ei bennill, O am nerth i dreulio'm dyddiau. Byddai'n cael argraff neilltuol arnaf." Canys lle byddo'r wreichionen fyw hi el o'r naill i'r llall. Ac am Elias Williams: "Dyn duwiol iawn. Galwyd arno un tro i gymeryd rhan mewn cyfarfod gweddi, a rhoes allan y pennill, Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw. Gan mor effeithiol yr adroddid y pennill, yr oeddwn yn teimlo fy ngwallt yn sefyll ar fy mhen." Ac eto am Thomas Parry y cwper: "Hen gymeriad hynod o ffyddlon. Athro ar blant bychain yn yr ysgol. Defnyddiai y geiriau yma ar weddi, 'O, am gael ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef,