Yn 1888 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Richard Jones Cefn y gof a John Hugh Jones Tyddyn wiscin.
Yn 1889 atgyweiriwyd y capel ar draul o £115. Talwyd â'r gweddill oedd mewn llaw o adeg gwerthu'r hen gapel. Yn 1895 cychwynnwyd ar y gwaith o dynnu i lawr yr hen dy capel ac adeiladu un newydd, ynghyda'r ysgoldy gerllaw. Swm y ddyled yn 1900, £700. Rhif yr eglwys, 125.
Medi, 1890, bu farw Hugh Williams Tyddyn bach, yn flaenor ers 21 mlynedd. Bu'n ffyddlon ac ymdrechgar gyda'r gwaith, a pharhaodd i'r diwedd yn ieuengaidd ei ysbryd. Cymhwysir ato gan y swyddogion yn eu nodiadau yr ymadrodd,—"yn llawn digrifwch a'i lond o grefydd," a dywedir ei fod yn golofn gref i'r achos a bod chwithdod ar ei ol. Yr oedd yn wr a mesur o urddas yn perthyn i'w ymddanghosiad a'i ddull, ac yn credu mewn arfer gradd o wyliadwriaeth gyda newydd-ddyfodiaid, a dal ei law yn o dynn yn yr awenau. Ynglyn â hynny, fe ddanghosai barodrwydd i roddi rhyw le go amlwg i rai y disgwyliai oddiwrthynt unrhyw gynorthwy neilltuol gyda dwyn y gwaith ymlaen. Medrai roi lle a gofalu am gadw'r awenau hefyd. Yr ydoedd yn graff ar y wyneb heb dreiddgarwch neilltuol. Fe ddywedir y nodweddid ef gan hynawsedd a charedigrwydd, ac y gwnelai gyfeillion ar bob llaw. Yn 1890 ymadawodd Hugh Owen Cae Philip, wedi bod yn flaenor yma am 9 mlynedd. Yr oedd yn flaenor yn Aber cyn dod yma, a galwyd ef i'r swydd gan yr eglwys hon, a gwerthfawrogid ei wasanaeth.
Mehefin 20, 1893, bu farw William Owen Prysgol, yn 79 oed, ac yn flaenor yma ers 34 blynedd. Y mae ef yn dra adnabyddus o ran ei enw lle bynnag y ceir Cymry ar wyneb y ddaear fel awdwr y tonau Bryn Calfaria, Deemster, Gwledd yr Eglwys ac eraill, ond yn arbennig y flaenaf. Dyn o ymddanghosiad yn hytrach yn eiddil ydoedd, a chyda chyffyrddiad amlwg dynerwch ac ieuangrwydd yng ngwedd ei wyneb. Er wedi hen golli gwrid ieuenctid, eto ni chollodd mo ffurf ieuengaidd y wyneb na gwên ieuenctid na thôn ieuengaidd y llais nac ysbrydiaeth a nwyf ieuenctid. Yr un pryd nid dyn ar y wyneb mo hono, ond yr oedd rhywbeth ynddo yn ymguddio ac yn ymgadw iddo'i hun. Gwelid arwyddlun hynny yn ei ddull yn dal ei wyneb megys y naill du. Fel swyddog yr oedd yn hytrach yn geidwadol: ni thynnai rai gymaint ymlaen a Hugh Williams.