the Interest of Thirty Pounds for improveing the Methodist Chapel Near Newbridge P me John Owen £1 10s. 0d."
Yr oedd Owen Jones llyfr-rwymydd yn flaenor yn Llanerchymedd cyn dod yma. Y mae ei enw ar lyfr yr eglwys am 1805. Dychwelodd yn ol i Lanerchymedd yn 1822. Yr oedd yn wr goleu yn yr ysgrythyrau, ac yn hyddysg yn athrawiaeth yr Efengyl. Gwelodd W. P. Williams rai o'i draethodau mewn llawysgrifen, ac ystyriai eu bod yn dangos cryn lawer o allu. Ei dyb ydyw ei fod ef yn rhagori ar ei gydswyddogion mewn gwybodaeth athrawiaethol.
Yr oedd enw Griffith Samuel ar y llyfr eglwys yn 1805. Gwr byrr o gorff ond grymus, ac wedi colli un llygad. Saer maen wrth ei alwedigaeth. Ni wyddai W. P. Williams ddim am ei gymhwyster i'w swydd.
Sylwir yn Nrych yr Amseroedd ar Richard Williams o Gaernarvon, na chafodd ond braidd ymddangos i weinidogaethu yn gyhoeddus, na chymerwyd ef oddiwrthym. Dywedir ddarfod iddo dreulio ei yrfa grefyddol yn syml a diargyhoedd. "Selog, ychydig a fu ar y maes," ebe Griffith Solomon. (Drysorfa, 1837, t. 119).
Y mae gerbron lyfr testynau am y blynyddoedd 1816-9. Dwg arno enw E. Jones, Penrallt, Caernarvon. Y mae'r enw Edward Jones mewn man arall. Y mae'n amlwg yn dwyn cysylltiad â Phenrallt. Y mae'r llyfr yn ddiffygiol mewn mannau. Codir yma yr hyn ohono sy'n dwyn cysylltiad â'r flwyddyn 1816: July 21, Rees Rowe and [felly i lawr], 2 o'r gloch, x. 41-2; 6 o'r gloch, I Cor. ix. 24. July 28, 6 o'r gloch, Mat. xv. 21-8. July 30, John Humphreys Caerwys, 9 o'r gloch, Heb. v. 9. Dyn o'i flaen 1 [?] Malaci vi.; 6 o'r gloch, Evan Richards, Marc xvi. 15. Awst 4 (9. 2, 6), Evan Richards, Luc x. 42, II. Petr iii. 11, Mat. xi. 28. Awst 11 (2 a 6), Heny. Wms Llandy . . . Heb. xii. 24. Awst 15, John Hughes S Tref . . . Mat. xvi. 26. Awst 18. Wm. Roberts Clyng (2 a 6), Ioan iii. 15, Galarnad iii. 37-40. Awst 21, Mr. Hay, Warrington, Salm Ixv. 4. Awst 23, John Evans Deheudir, Heb. xi. 29, John Elias, Ioan x. 14. Awst 25 (9 a 6), John Elias, Luc xxiv. 46-7. Ioan viii. 34. Awst 25, Edward Costley [?Coslett], Heb. ii. 14, 15. Dyn o'i flaen, Heb. xii. 5. Medi 1, Mr. Llwyd Bala (2 a 6), Ioan xi. 49-51, Phil. i. 27. -Petters (2 a 6), Ioan xv. 2, Heb. xi. 7. Medi 8, Richard Owen (2 a 6), Esai liii. 1, Actau