Richardson. Er hynny, cael a chael oedd iddo aros. Yr oedd geiriau John Elias am y tri mis yn rhuo yn ei feddwl o hyd nes i'r tri mis ddod i ben. Adroddai John Huxley hyn ymhen mwy na hanner can mlynedd, ac o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd. Yn frodor o Nerpwl, ni ddysgodd mo'r Gymraeg nes dod i Gaernarvon yn fachgennyn ieuanc. Fe gafodd addysg dda, a bu'n ddarllenwr ar hyd ei oes. Dywed y Parch. Hugh Roberts (Bangor) yn y Drysorfa, ei fod yn gartrefol mewn hanesiaeth wladol ac eglwysig, ei fod yn ddiwinydd galluog, yn feirniad medrus ac yn bregethwr melus odiaeth. "Ni byddai un amser yn pregethu yn faith nac yn danbaid; ni byddai yn dyrchafu nemor ar ei lais, ond yn foneddigaidd yn ei holl agweddau. Yr oedd ei lais yn beraidd, a chanddo ystôr helaeth o faterion, fel yr oedd yn gallu sicrhau astudrwydd yn ei wrandawyr. Bu yn ffyddlon iawn gyda'r ysgol Sabothol. Yr oedd yn ddyn cyflawn o synnwyr a doethineb, a llanwai bob cylch y deuai iddo yn anrhydeddus. Yr oedd ei gymeriad yn uchel yn y dref boblogaidd yr oedd yn byw ynddi, fel dyn call, synwyrol a chrefyddol, ac o chwaeth goethedig." Yr oedd yn wr coethedig, o ddawn naturiol, o ysbryd crefyddol, yn hytrach yn neilltuedig ei ffordd ac anhyblyg ei feddwl. Gwrthododd y cynnyg i'w ordeinio yn 1834, yr hyn yr edrychid arno y pryd hwnnw fel arwydd o barchedigaeth go uchel, ac fe deimlid y gwrthodiad yn brofedigaeth gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd ef yn 64 oed weithian, ac nid annhebyg iddo deimlo yr esgeuluswyd ef yn rhy hir. Bu o fewn ychydig i'w alw i'w ordeinio 11 mlynedd yn gynt, pryd nad oedd ond nifer bychan wedi eu hordeinio yn y Corff. Esgeulus ydoedd o'r Cyfarfod Misol, ac ymyriad rhywrai, fel y tybir, a rwystrodd y cynnyg i'w ordeinio y pryd hwnnw, gan nad oeddynt yn ei gael yn Fethodist digon cyfansoddiadol. Pan wrthododd ei ordeinio, fe sylwodd John Elias yn Sasiwn yr ordeinio, mai efe oedd y cyntaf yn y Cyfundeb i wrthod, a bod yn alarus ganddo am hynny. Tebyg y cofiai John Elias am y seiat yng Nghaernarvon, pryd y ceisiodd efe rwystro ei gais am aelodaeth. Bu'n pregethu am yn agos i 40 mlynedd. Maes ei lafur, yn bennaf, oedd Caernarvon a'i chyffiniau. Ni wyddai Hugh Roberts iddo fyned ar daith i sir arall fwy nag unwaith. Ni fynegir ym mha sir, ond bu ar daith bregethu yn Sir Fôn gyda John Wynne, o leiaf. Dywed Hugh Roberts y buasai yn addurn i'r weinidogaeth deithiol. Trwy gryn ymdrech y cafwyd
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon.djvu/95
Gwedd