Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth i'w theulu roi ychydig ddiod iddi, ebe hi, "'Rwyf bron a chael torri fy syched am byth." Dywedodd unwaith, "Ofnais lawer gwaith mai myfi a roddai achos i'r gelynion gablu, ac mai fi fyddai eu cân hwynt, ond mi a gefais fy nal yn ddigwymp hyd y diwedd." Cynghorai ei hwyrion, "Da'r plant, ymofynnwch am dduwioldeb yn eich ieuenctid." Glynai ei chynghorion fel hoelion. Wrth ei mab, ebe hi, "Glŷn wrth ddarllen." Wrth ei merch ynghyfraith, "Hi a gais wlân a llin, ac a'i gweithia â'i dwylaw yn ewyllysgar. Tebyg yw hi i long marsiandwr; hi a ddwg ei hymborth o bell." Wrth yr hynaf o'i hŵyrion, "Gwna yn llawen, wr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon ac yngolwg dy lygiad; ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll." Wrth un, "Chwi yw halen y ddaear;" wrth arall," Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg;" wrth arall, "Yr hwn y mae y Mab ganddo y mae'r bywyd ganddo;" ac wrth arall, "Na cherwch y byd, na'r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef." Pan yn rhy bell arni i ymddiddan â thrigolion daear, fe'i clywyd yn sibrydu, "Deu- wch i'm nhôl; aroswch fi; ymaflwch yn fy llaw i'm helpu drosodd." Ei henw a'i choffadwriaeth ar ei hol yn perarogli fel gwin Libanus.

1822, Rhagfyr 30, ar nos Lun, John Jones Dolyddelen yn pregethu yma am y tro cyntaf ar Rhufeiniaid viii. 4. Ionawr 12 o'r flwyddyn nesaf, yn ol ei Gofiant (t.100), yr oedd yn pregethu yma y Sul ac yn dechre gweithio yn y chwarel y Llun. Noda Cyrus ddarfod iddo bregethu ar un arddeg o Suliau yn Salem yn ystod. y flwyddyn nesaf, ac mai'r Rhufeiniaid a'r Datguddiad oedd ei hoff feusydd. Er bod ohono yn aelod yn Nhalysarn, gwnelai ei oreu dros eglwys Llanllyfni, a sefydlodd gyfarfodydd canu hynod. lwyddiannus yn y ddau le, yn cael eu harwain ganddo ef ei hun. (Cofiant, t. 101.)

Y pryd hwn yr oedd dwy gangen-ysgol ym Mynydd Llanllyfni, a theimlad dros gael Ysgoldy yno. Yr Anibynwyr wedi adeiladu capel yno, ac ysgol a gedwid yn y parth hwnnw yn myned yno bellach. Nid oedd blaenoriaid Salem ddim yn cydolygu ar yr anturiaeth o godi ysgoldy. Robert Evans Ty'nllwyn, a fu byw yn y gymdogaeth, dros ysgoldy. Ac yntau'n ddyn penderfynol, llwyddodd i ennill ei bwnc. Disgynnwyd ar le a elwir Pum-croeslon. Gorffennwyd yr ysgoldy yn Nhachwedd, 1826. Parhaodd am 17