yr ardal i godi a chludo'r cerryg. Gorffen y gwaith, Gorffennaf, 1862. Yr ysgol yn cynnwys lle i 250. Cafwyd £288 18s. 7c. gan y Llywodraeth, a chasglwyd £244 gan yr ardalwyr Casglwyd £219 8s. o'r swm yma gan y Methodistiaid. Gweithredoedd yr ysgol yn darparu fod 13 o bersonau yn ffurfio pwyllgor, i gyfrannu coron yr un yn flynyddol, a deg o honynt yn Fethodistiaid. Gwnaeth y pwyllgor amryw welliantau ar yr adeiladau. Ni chynorthwyai'r Llywodraeth, a rhoddwyd £100 o'r ddyled ar y Methodistiaid, ar y dealltwriaeth fod y Bwrdd Ysgol yn talu £1 yn y flwyddyn o lôg i drysorydd yr eglwys, a bod rhyddid gan yr eglwys i ddefnyddio'r adeiladau ar y Sul pan fyddai eisieu, ac ar dair noswaith o'r wythnos. Hon oedd yr ysgol Frytanaidd gyntaf yn yr ardaloedd hyn. Nid oedd ysgol ym Mhenygroes na Nebo. Yr ysgol yn Nhalysarn mewn cysylltiad â'r capel yn unig. Agorwyd yr ysgol Mehefin 20, 1863. Robert Jones Dwyran, Môn, yr athraw hyd Medi 1864; John Roberts (Manchester House) hyd Medi 1867; Howell Roberts (Hywel Tudur) hyd 1874, pan roddwyd yr ysgol dan y Bwrdd Addysg. (Cyrus).
1861, Gorffennaf 28, William Jones Hermon, Llandegai, yn pregethu am y tro cyntaf. Daeth yma fel bugail, Rhagfyr 1862. Dim cytundeb penodol. Casgl chwarterol at y fugeiliaeth, ond ni wneid ond ychydig.
1863 neu 4, dewiswyd yn flaenoriaid: Richard Jones Penrhos, Humphrey Griffith Gwyndy, William Ellis Brynffynnon, a Griffith Hughes Buarthau. Symudodd William Ellis yn 1868. Symudodd Humphrey Griffith i Leyn yn fuan ar ol ei ddewis, a bu'n swyddog yno hyd ei farw yn 1880. Gwr duwiol, difrycheulyd.
Ionawr 2, 1864, y bu farw John Prichard Penpelyn, wedi gwasanaethu fel blaenor am 23 mlynedd. Yn hen wr penwyn, heinyf ar y cyfan, ond wrth ei ffon, y cofir ef gan yr Asiedydd. Un o'r ffyddlonaf o flaenoriaid yr eglwys. Goddefai ei gymell yn hir cyn siarad weithiau, ond pan godai fe geid rhywbeth ganddo. Pan ddechreuai gosi ochr ei ben, ebe'r un gwr, fe ellid disgwyl rhywbeth anghyffredin, a gallai dorri allan i hyawdledd nerthol. Y ddawn i gadw seiat oedd ei brif hynodrwydd. Cwynai brawd unwaith wrtho am feddyliau drwg. Ar ol gwrando'r gŵyn, ebe yntau, "'Roedd y forwyn acw yn curo'r mochyn o'r drws ddoe, ac yn lled fuan wedi hynny, gwelwn hi'n rhoi bwyd iddo yn y drws. A wyt tithau, Sion bach, yn peidio rhoi bwyd i'r meddyliau drwg yna, ac