Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fethu ganddo a chael ufudd-dod, torrodd allan unwaith gyda gwaedd -"Distawrwydd," nes yswilio'r drwg-weithredwyr. Anghofiai ei hun weithiau ar weddi gyhoeddus fel na wyddai mai gweddio yn gyhoeddus yr ydoedd, ac elai ar brydiau yn faith iawn. Teimlid ef yn ymaflyd yn nerth yr Hollalluog ar adegau. Dywediad o'i eiddo am y weddi deuluaidd ydoedd mai clem a roddai ef fynychaf ar ddiwrnod gwaith gan faint ei frys i fyned i'r chwarel, ond ar fore Sul y byddai yn rhoi gwadn. Bu farw ynghanol oed gwr.

Ionawr 7, o'r un flwyddyn, y bu farw Robert Parry Ty'n y llan, yn 80 oed, ac yn swyddog ers chwarter canrif. Yn ddiargyhoedd ei fuchedd, fe oedodd yn hir broffesu. Meddyliodd mai yn Sasiwn y Bala y cawsai'r peth mawr y disgwyliai am dano; ond dychwelodd oddiyno y seithfed tro heb ei lanhau. Y Sul dilynol yr oedd efe yn gwrando ar William Roberts Clynnog ar y geiriau, "Myfi a âf, arglwydd, ac nid aeth efe," pryd y gwelodd ei ddyledswydd, a'r cyfle cyntaf daeth i'r eglwys. Y Sul ar ol sasiwn Mehefin, 1813, ydoedd hwnnw, debygir, gan y dywedir mai yn Llanllyfni y clywyd y bregeth, pan ydoedd Robert Parry o 28 i 30 oed, ac nid yw'r testyn hwnnw yn rhestr testynau Robert Parry, y cyfeirir ati eto, yn unlle yn ystod y blynyddau cyntaf. Eithr yr oedd bwlch yn y rhestr o rai wythnosau yn yr adeg grybwylledig. Defnyddiol gyda'r ysgol fel athraw, arolygwr ac ysgrifennydd. Dengys ei restr o bregethwyr a'u testynau yn Llanllyfni am dros 50 mlynedd, y gwneir defnydd ohoni yma ar ddiwedd hanes yr eglwys, ei fod yn wr tra gofalus a manwl a chyson o ran anian ei feddwl. Gyda phethau allanol yr eglwys y rhagorodd. Fe aeth i'w fedd heb i neb ddwyn ei goron. Brawd i Ann Parry. (Drysorfa, 1866, t. 362).

Tachwedd 13, o'r un flwyddyn, yn 80 mlwydd oed, y bu farw Ann Parry. Bu Catrin Prichard ac Ann Parry yn cadw'r tŷ capel cydrhyngddynt yn o gyfartal am ganrif gyfan, mewn gwir olyniad ddiaconesol. Gwisgai hi yr het silc henafol gydag urddas. Diacones yn yr eglwys a mam yn yr ardal oedd Ann Parry. Yr oedd natur wedi gweithio yn groes-ymgroes yn y teulu, gan roi'r benywaidd yn fwy i Robert a'r gwrrywaidd yn fwy i Ann. Ystyrrid hi yn un o'r goreuon am gadw tŷ capel, ac yr oedd ei chlod hyd eithaf y Deheudir. Ymgynghorai'r blaenoriaid â hi, megys un ohonynt hwy eu hunain, neu'n hytrach, megys pe bae hi yn ben-blaenor. Pan fyddai pregethwr gwerth ei gael yn nacau cyhoeddiad i'r blaenoriaid a hithau wrth law yn clywed, fel y byddai hi yn o debyg