Yr ydoedd unwaith wedi saethu yn ei ŷd iar a berthynai i ryw hen wreigan. Yr hen wraig yn addo iddo y collai efe y fuwch oreu oedd ganddo. Ni feiddiodd gyffwrdd â'r un o ieir yr hen wraig fyth ond hynny. Tywynnai lled-rithiau o'r anweledig ar y dychymyg. Gwelodd un ffarmwr wr ar ochr y mynydd pan y gwyddid fod y gwr hwnnw yn ei wely adref. Y goel ydoedd na byddai'r gwr a welwyd yn y dull hwnnw ddim byw yn hir; ac fel y coelid am dano, felly y digwyddodd iddo. Gwelid milgi mawr yng nghroes- lon Ty'nyberth, yn ddigon mawr i fyned ar draws y ffordd, gyda'i ben ar un clawdd a'i gynffon ar y llall. Ffarmwr Maesog, yn yr adeg honno, ydoedd un o'r rhai a'i gwelodd ef. Bu'r lledrith hwnnw yno am yn hir o amser. Yr oedd plentyn i'w glywed yn crio yn Llwyn Maethog, fel nad elai neb o'i fodd y ffordd honno yn hwyr o'r nos. Gwelodd dau o lanciau ym mhentref Clynnog gynhebrwng yn dod drwy'r ffordd ganol, a dyn adnabyddus iddynt yn eistedd ar gaead yr arch. Yr oedd y dyn hwnnw yn cael ei gladdu ymhen ychydig wythnosau yn ol hynny.
Mae John Owen yr Henbant, y gwr a gychwynnodd yr ysgol Sul yn y Capel Uchaf yn 1794, wedi gadael ar ei ol mewn llawysgrif gyfeiriad at y dull y treulid y Sul gan gorff y bobl yr amser a gofiai ef. Dywed y tyrrai'r hen bobl i dai eu gilydd ar y Sul i adrodd chwedlau a helyntion y byd, ac elai'r bobl ieuainc, rhai at y bêl, rhai i goetio, eraill i rodianna. Byddai lliaws, eb efe, yn myned i ochr carreg Brysgyni, i adrodd chwedlau am y digrifaf. Byddai rhywun yno yn cyhoeddi pa bryd y cynelid y cyfarfod y Sul dilynol. Ymladd ceiliogod oedd mewn bri hefyd yn yr ardal, ond dywed John Owen na wyddai fod hynny o chware yn cael ei arfer ar y Sul. Dywed y prynid yspardynau dur i'w rhwymo wrth draed y ceiliogod, er gwneud y frwydr yn fwy gwaedlyd, ac y byddai bob un yno yn annos ei geiliog ei hun. Cyrchid i'r llan o Fôn ac o fannau yn nau ben y Sir, Sul a gwyl, i chwareu'r bêl ar fur y clochdy, a'r rheithor yn dwyn ei ran ac yn cadw cyfrif. Yr oedd gwylmabsant yr ardal yn adeg o gynnwrf a rhialtwch ac o ymladd a meddwi, canys heblaw lledrithiau'r anweledig, rhaid cael hefyd gynnwrf cig a gwaed cyn bydd byd neb rhyw ddyn yn un llawn a boddhaol.
Mae hirhoedledd pobl yr ardal wedi bod yn achos o syndod. Dyna Hugh a Sian Jones, wr a gwraig, a fuont feirw oddeutu 1889,