iv. 7; 2 Petr iii. 10, 11; iii. 15; iii. 9. 1 Ioan v. 8; i. 3. Judas 14, 15. Datguddiad iii. 2 (ddwywaith); iii. 3; xxii. 1; v. 6; iii. 20; xii. 7-9; iii. 15, 16. Cyfanrif y pregethau, 187, sef 80 o'r Hen Destament a 107 o'r Testament Newydd. Nid yw'r rhestr hon yn ddangoseg agos i gyflawn o bregethau John Jones. Yn y ddwy gyfrol o'i bregethau cyhoeddedig, allan o 75 o bregethau y mae 40 ohonynt heb fod yn y rhestr yma. A dywed golygydd yr ail gyfrol fod defnyddiau neu ynte amlinelliad o dros 300 o bregethau mewn ysgrifen. Y mae amryw o'r pregethau mwyaf eu dylanwad heb gyfeiriad atynt yn y rhestr, nid hwyrach am y buasai lliaws o'r gwrandawyr wedi eu clywed yn y capelau cyfagos. A gadael allan Zechariah, ni chynnwys y rhestr namyn pum testyn allan o'r Proffwydi Lleiaf; ni chynnwys gymaint ag un testyn allan o Efengyl Marc; dim ond dau o'r Actau; dim un allan o'r Cyntaf at y Corinthiaid. Y Salmau ac Esay yn yr Hen Destament a ddengys yr atyniad mwyaf iddo, ac, allan o benodau unigol y Beibl, yr wythfed at y Rhufeiniaid. Pan nodir ddarfod iddo bregethu ddwywaith ar yr un testyn, y rhan amlaf fe roes y ddwy bregeth ar yr un Sul.
Mymryn eto ar 40 mlynedd olaf y rhestr. Bu John Jones, fel y sylwyd o'r blaen, yn dod yma am flynyddoedd i gateceisio'r plant unwaith yn y flwyddyn, ac yn ddiweddarach John Prydderch Môn. Hydref 3, 1824, y rhoes Robert Jones Tŷ Bwlcyn (Rhoslan) ei bregeth olaf yma (Hosea vi. 3). Ar nos Fawrth (6), Medi 22, 1829, dyma Mr. John Evans Llwynffortun heibio (Heb. vii. 25). Ar nos Iau, Awst 9, 1832, rhoes Dafydd Rowlant Pwllheli (Ioan xi. 15) a Christmas Evans (Eph. i. 13), y Bedyddwyr, oedfa yma. A'r un flwyddyn, Rhagfyr 4, gyda Benjamin William fel cyfaill, am y tro cyntaf, Morgan Howels y Deheudir (Rhuf. viii. 1). Medi 17, 1835, am 2, dyma Morgan Howels sir Fynwy (Galat. vi. 14) gyda'i gyfaill, Evan Evans Nantyglo. Chwefror 3 (10), 1836, William Prytherch ar ei hynt gyntaf heibio yma (Dat. ii. 10), gyda'i gyfaill John Jones Llangyndeurn. "Mr." John Elias am y tro olaf-anfynych y bu ers blynyddoedd bellach-ar nos Wener, Mai 1, 1840 (Jer. xxxii. 39, 40). Dyma James Williams, cenhadwr o Lydaw, Mai 29 (10), 1842 (Heb. x. 31). William Charles "dorrodd gyhoeddiad " y Sul, Mehefin 12 dilynol. 1845, bore Gwener (11), Gorffennaf 18, Joseph Thomas Birmingham, y gwr o Garno wedi hynny; a'r hwyr y diwrnod dilynol (7), James Williams Llydaw yn rhoi hanes y