hyrfodd ei wraig yn dost. Hi a gytunodd yn y man, pa fodd bynnag, i fyned gyda'i gwr yn y bore ond iddo yntau ddod gyda hi i'r eglwys wladol yn yr hwyr. Argyhoeddwyd hi'r bore cyntaf, a chyda'i gwr yr aeth yr hwyr hefyd, ac ymunodd â'r eglwys gyda'i gwr y cyfle cyntaf. Dywedai William ei mab am dani na welodd ef ddim tywydd a rwystrai ei fam i'r seiat yn Llanllyfni. Cyfrifid Ifan Sion yn wr egwyddorol, ac yr oedd iddo'r enw o fod yn hallt yn erbyn pechod. Wrth ymliw ohono â rhyw frawd am yr hyn a gyfrifid ganddo ef yn anweddeidd-dra, troes hwnnw ato gyda'r cwestiwn, "Ifan, a ydych yn fy ngweled wedi colli fy lle?" Yr ateb oedd, "Pa haws i mi dy weled di, Wil, onibae iti dy weled dy hun!"
Deuai rhai i'r capel o ardaloedd Rhostryfan, Carmel a Llandwrog. Deuai John Roberts yma o Lanllyfni gyn amled ag a allai, ac Evan Richardson a Robert Roberts hefyd ar eu hynt. Llwyddodd John Roberts i gael Beiblau i'w gwasgaru yn yr ardal. Yr oedd efe yn fawr ei fri yma.
Nodir amryw bersonau gan Mr. Owen Hughes a ddaeth i'r eglwys ar ei sefydliad neu ynte cyn bo hir iawn ar ol hynny. Dyma ei restr ef: Owen David a Jane Hughes Traian, William a Jane Hughes Tŷ tân, Thomas Jones ac Ann Roberts Bryngoleu, William Edward ac Ann Williams Cae'rymryson, Ellen Williams Bodangharad, Griffith Pritchard ac Elizabeth Williams Penlan, John Roberts a Catherine Evans Grugan ganol, Owen Dafydd a Catherine Williams Beudy isaf, Griffith Morris Dolydd, Robert a Martha Thomas Gerlan bach, Ellen Williams, William Bevan, Solomon Parry.
Ni chafodd Bryn'rodyn yn ei gyfnod cyntaf mo'r lliaws ymweliadau nerthol a brofwyd yn Llanllyfni, ac yn enwedig yn y Capel Uchaf. Parai hynny radd o sylw ac ymofyniad mewn dieithriaid yn enwedig. Ar ei rawd y ffordd honno, gofynnai Charles i Sion Griffith, "Pa fodd yr ydych yn gallu dal ati fel hyn. drwy'r blynyddoedd, Sion Griffith ?" "Wel, Mr. Charles," ebe yntau, "cael ambell gylch y byddaf, onide ni ddaliwn i ddim yn hir. Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Edrychai John Jones Edeyrn ar y pwnc yn ei ffordd ei hun. Efe a ddywedai fod pobl Brynrodyn yn cael braint fawr iawn, sef cael dod at grefydd mewn gwaed oer. Ni bu'r eglwys hon, er hynny, ddim heb ym-