Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

swyddog cyntaf, neu'r cyntaf, ac feallai'r pwysicaf. Mae enw iddo'n aros fel gwr da, ac un o gryn ddylanwad. Efe hefyd oedd y cyhoeddwr. Swyddogion eraill y cyfnod hwn: Salmon Parry Collfryn, arweinydd y gân, a chyhoeddwr ar ol Isaac Williams, William Williams Henrhyd, Robert Hughes Caelywarch, Robert Roberts Penybythod, Evan Michael Tŷ capel, William Morris Glanrafon, Richard Roberts Penrhos.

Fe ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai nid llawer o gynnydd a fu ar yr achos yma o'i gychwyniad hyd y flwyddyn 1840, ond erbyn hynny, sef adeg y diwygiad, y cafwyd adfywiad a chwanegiad mawr. Ac nid ymddengys hynny o gwbl yn anghyson â'r nodwedd a fuasid yn ei briodoli i bobl yr ardal. Ardal lonydd ydyw. Gallasai fod yn Llanllonydd Isaac Ffoulkes. Pan ddisgyn yr angel i'r llyn llonydd, pa ddelw bynnag, y mae'r ymferwad am y pryd yn rhyfeddol, ac yn iachaol hefyd i ryw rai parod i achub eu cyfle.

Yr amser hwn yr oedd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Gyda llanw'r diwygiad fe deimlwyd angen am gapel newydd. Capel cryf, eang. Y draul, £550. Cryn gwrs yn ddiweddarach y codwyd llofft eang arno ar un talcen a'r ddwy ochr. Y draul, £350, fe ddywedir. Mae prydles yr ail gapel wedi ei hamseru yn 1841, am 71 mlynedd, am bedwar swllt arddeg y flwyddyn.

Yn ystod yr amser yr adeiladid y capel, cynelid yr ysgol yn ysgubor Bwlan ac yn y Tai Gwynion.

Yng nghyfnod agoriad yr ail gapel hwn, Evan Hughes Ty'nlon bach oedd y blaenor mwyaf amlwg. Gwr yntau o gryn ddylanwad, a chanddo air da gan bawb. Efe, meddir, oedd yr arolygwr ysgol goreu a fu gan y Bwlan. Symudodd i Abererch. Nodir Griffith Parry, a aeth drosodd i'r America yn 1846, fel gwr caredig i'r achos.

Chwefror 27, 1844, y bu farw Griffith Williams, y pregethwr. Efe oedd y pregethwr cyntaf a fu yn yr eglwys hon. Yn nhŷ'r capel yn y Capel Uchaf y trigiannai pan ddechreuodd efe bregethu. Dug nodwedd y Capel Uchaf yn amlwg arno. Nid ymddengys ei fod yn wr o unrhyw alluoedd meddyliol neilltuol, nac o unrhyw gyrhaeddiadau neilltuol. Ei arbenigrwydd oedd ynni, ymroddiad. a thanbeidrwydd ysbryd. Hen wr o'r Bwlan a'i hadwaenai yn dda a ddywedai mai lladd ei hun wrth bregethu a ddarfu. Prun bynnag am hynny, nid oedd dim ymdrech anaturiol yn ei ddull, fe ym-