Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ran o erw, yn rhodd Mr. Henry Hughes Caernarvon, a'r tŷ, gwerth £600, yn rhodd Thomas Williams, oddigerth cludo'r defnyddiau gan amaethwyr y gymdogaeth.

Dechreuodd William Jones Caedoctor bach bregethu yn 1891. Derbyniodd alwad yn fugail i Fôn.

Yn 1894 dewiswyd Robert Thomas a John Hughes yn flaenoriaid.

Adeiladodd Thomas Williams ysgoldy y Morfa ar ei draul ei hun, gan ei gyflwyno i'r Cyfundeb. Agorwyd ef yn 1895.

Yn 1898 dewiswyd Richard Jones a Robert Evans yn flaenoriaid.

Edrydd Betsan Owen am rai cymeriadau a fu yma heb fod mewn swydd. Rhys Owen, tad John Owen. Ddim yn flaenor, ond yn cymeryd gwaith blaenor. Ei Salm, "O'r dyfnder y llefais arnat, O Arglwydd," ac yn arbennig y geiriau, "Os creffi ar anwireddau, Arglwydd, O Arglwydd pwy a saif?" "Rhys sy'n dweyd ar ol y Salmydd," eb efe wrth ddarllen. Ar ei weddi, "Symud yr anwireddau cyn i ni ddod i sefyll o'th flaen. 'Dallwn i ddim sefyll heb symud yr anwireddau." William Thomas a arferai sôn am bethau rhagluniaeth fel yr elor yn dod i ymofyn y corff. Darllenwr mawr ar ei Feibl, a gweddiwr mawr. Gair Hugh Roberts yn derfyn ar bob ymryson. Yr oedd Hugh Roberts yn berchen buwch ragorol, ond yr affaith iddi, hi fwriai ei llestr wrth ddod a llo. Awd i werthu'r fuwch. Prynwr yn dod ymlaen. Hugh Roberts yn adrodd am helynt y fuwch. Ei wraig yn ymyrryd. "Faswn i ddim yn ei gwerthu, onibae am hynny," ebe yntau. "Gwell gen i iddi farw gen i na chanddo fo, heb iddo wybod ei hanes. "Mi prynaf i hi," ebe'r prynwr. Hanes y fuwch honno ydoedd, er iddi fwrw ei llestr chwech neu saith o weithiau o'r blaen, na ddigwyddodd mo'r peth ond hynny. Rhaid bod Hugh Roberts yn ddyn neilltuol, canys fe ddywed Betsan Owen fod ei edrychiad ef yn fwy effeithiol na gair rhywun arall. Ni chanmola Betsan Owen mo bawb, canys hi a ddywed am un gwr yn ei weinyddiadau cyhoeddus, ei fod gyn syched a hen leiaden.

Dywedir hefyd am Elin Jones Cae'rloda yr arferai hi ddyled- swydd deuluaidd ei hun, gan nad oedd ei gwr yn aelod. Catrin Michael, gwraig William Ifan, a ddeuai o Abermenai, bedair milltir