tua'r siop yna yn plevio. Gwael iawn, gwael iawn, Owan." "Wel, Robin," wrth y mab arall, "treia di hi, i weld a oes gin ti rwbeth i ddeyd." Robert yn o isel. "Be' wyt i yn i ddeud, dwad? Pwy all dy glywad di? Dywed yn uwch, wnei di." Robert yn codi ei lais, ac yn dweyd ychydig. "Tipyn gwell nag Owan," ebe'r tad, "ond wfft i chi ill dau." Codi'n sydyn ar ei draed, awgrymu troi y cyfarfod yn gyfarfod gweddi, gan nad oedd gan yr hogiau ddim i'w ddweyd. Galw ar Hugh Roberts y Ffridd, brawd ieuengaf Robert Roberts Clynnog, i weddio: "Yr hen frawd, dos ar dy liniau." Hugh Roberts yn myned, ond dim gair i'w glywed. Galw allan ar yr hen frawd, "Dywad rwbeth, dywad rwbeth." "Wel, gyfeillion," ebe Hugh Roberts, oddiar ei liniau, "mae'n dda gin i fod yma, ac yr ydw i yn hoff o ddirwest." Hugh Roberts yn cael pwniad, "Gweddïa, gweddïa." Hugh Roberts ar hynny yn gweddio yn syml a gostyngedig a gafaelgar. Pan gododd ar ei draed, Robert Owen yn gofyn iddo, "Beth oedd arnat i, yr hen lob, yn areithio ar dy liniau ?" "Wel," ebe'r diniwed, " be wyddwn i nad rhyw ddull newydd o gadw cyfarfod dirwest oedd ganddochi? Waeth sut i ddweyd!" "Gwaeth," ebe Robert Owen, "Gwaeth, yr hen greadur rhyfedd!" Brysiodd Owen a Robert adref, ac yr oeddynt yn eu gwelyau cyn fod cadeirydd y cyfarfod wedi cyrraedd y tŷ. Wedi i John Jones fod yn hir yn traethu wrtho, o bryd i bryd, am ragoriaethau yr America, aeth Robert Owen yno o'r diwedd, a dau o'i feibion gydag ef, sef yn y flwyddyn 1843. (Cofiant Robert Owen, t. 4-14).
Yn 1843 y dewiswyd Robert Jones Tanrallt yn flaenor, ac y daeth William Hughes yma o Lanllyfni, lle bu'n flaenor am bedair blynedd. Galwyd ef i'r swydd yma, a'r flwyddyn nesaf dechreuodd bregethu.
Yn 1846 dewiswyd yn flaenoriaid, Robert Owen, Tŷ draw wedyn, ac Edward William.
Yn 1849 sefydlwyd cangen-ysgol ar fynydd Cilgwyn mewn tŷ. Y rhai fu'n ymdrechgar yn y gorchwyl oedd, Robert Griffith Bala, John Morris Penrhiwiau, Hugh Roberts Talynant, Hugh Davies yr efail, John Jones Bryntirion, ynghyda bechgyn Ty newydd ac eraill. Codwyd dadl yma ymherthynas â hawl enwadol i'r lle, a gollyngwyd gafael o'r ysgol, ac erbyn hyn fe geir yno eglwys Anibynnol.