Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob dyn ieuanc yn ardal Talsarn a feddyliai am ddod yn rhywbeth mwy na'i gilydd, yn unrhyw ffordd, yn ffurfio'i hunan hyd y gallai ar gynllun John Jones. A dyma'r achos, eb efe, pam nad ymroes efe ei hun i ddysgu Saesneg. Ni wnaeth John Jones mo hynny, ac nid oedd eisieu iddo yntau wneud ynte. Yr oedd yr un ysbryd o ymddiried mewn cynneddf naturiol, heb ofalu cymaint am ddysg reolaidd, yn John Lloyd Jones. Eithr fe newidiodd Robert Owen ei syniad yn hynny, er parhau ohono i roddi'r pwys yn bennaf ar rym cynhenid dyn. Yr oedd esampl John Jones, pa ddelw bynnag, ymhlaid ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth, a sylw ar y byd, ac i hynny yr ymroes Robert Owen hefyd ar hyd ei oes, ynghanol gofalon bydol. Yr oedd dylanwad John Jones yn amlwg arno, yn peri iddo ymryddhau oddiwrth hualau cyfundrefn, ac mewn gadael ei feddwl yn agored i oleuni newydd, tra, ar yr un pryd, yn gryf a phendant ei olygiad ar yr athrawiaeth sylfaenol. Fe gariodd y meddwl gydag ef ar hyd ei oes am John Jones, mai efe oedd y mwyaf ei ddawn naturiol i bregethu a glywodd efe erioed, a'i fod yn un o'r dynion cryfaf ei garictor a adwaenodd efe. Dodai ef o ran grym cymeriad yn gyfochrog â'r Dr. Lewis Edwards. At ddiwedd ei oes fe'i clywyd yn dweyd nad oedd John Jones ddim wedi gwneud nemor erddo ef yn bersonol, a llai na ddylasai wneud. Ond os na wnaeth efe lawer iddo yn fwriadol, fe wnaeth lawer yn anfwriadol.

Bu'r Parch. D. D. Jones Bangor yma am oddeutu deng mis yn ystod 1856-7, yn cadw'r ysgol yn llofft y capel. Llywodraethid yr ysgol gan bwyllgor apwyntiedig gan yr eglwys. Aeth y cais am gynorthwy y llywodraeth yn fethiant ar gyfrif anghyfleustra'r lle. Y Parch. William Hughes ydoedd y prif ysgogydd gydag addysg yn y Dyffryn. Elias Jones y siop ydoedd trysorydd yr ysgol. Plant yr ardal y pryd hwnnw braidd yn ol mewn dysg. Cynaliai Mr. Jones ysgol nos i rai mewn oedran. Elis Walter Jones, pregethwr a aeth yn ol hynny i'r America, a fu gydag ef yn y naill ysgol a'r llall, a brawd iddo a fu yn flaenor ym Mhenygroes yn yr ysgol nos. Ymhlith y rhai a fu yn yr ysgol ddyddiol gydag ef, enwir gan Mr. Jones, Mr. Evan Roberts Beatrice, Tanrallt, a'i frawd; Thomas Jones y siop, sef mab Elias Jones; plant Hugh Jones Coedmadoc; Mrs. Thomas Levi a brawd iddi a fu yn feddyg ym Mhorthmadoc. Byrr-olwg oedd gan yr athraw, a chwynai rhywun am hynny. Yr oedd y bachgen a aeth yn feddyg yn gwrando'r gwyn, ac eb efe, "Os ydi i olwg o yn fyrr, y mae o yn