Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrylithgar y bedwaredd ganrif arbymtheg yng Nghymru, cystal ag yn un o'r areithwyr pennaf, ac yn y cyfuniad o'r ddau allu heb ei gyffelyb braidd. Yr oedd, hefyd, yn wr o feddylfryd dyrchafedig, yn ymgymeryd yn naturiol â'r wedd ysbrydol i bethau. Y mae ei lun yn arwyddo nid yn unig fod celloedd hyawdledd tucefn i'w lygaid, ond fod y llygaid hynny yn cyfeirio yn naturiol fel eiddo'r eryr at ffynonnell goleuni y bywyd. Mewn pymtheng mlynedd arhugain o bregethu didor, Sul, gŵyl a gwaith, i gynulleidfaoedd llawnion, gyda phobl fwyaf deallgar yr ardaloedd yn gyffredin yn gwrando arno, fe adawodd ei argraff yn ddofn ar Gymru. Erys yr argraff honno eto ymhen dros hanner canrif ar ol ei farw, a hi erys yn hir yn ol hyn. Nid mwy amlwg delw Cesar a'i argraff ef ar y geiniog y rhoes yr Iesu her i'w wrthwynebwyr i'w dangos, na delw John Jones a'i bregeth ar Arfon Fethodistaidd am gyfnod go faith pan ydoedd efe fyw, ac ar ol ei farw. Efe o bawb ydoedd Ioan Aurenau Arfon. Creodd gyfnod newydd hefyd ym mhregethu ei enwad ei hun. Dygodd drefn iachawdwriaeth, yn y cyhoeddiad ohoni yn ei weinidogaeth ei hun, a thrwy ei ddy- lanwad ar eraill, yn eu gweinidogaeth hwythau, yn ei eiriau ef ei hun, "o Jupiter neu rywle i weithredu ymhlith dynion ar y ddaear." Rhoes gychwyniad ym meddyliau lliaws mawr yng nghyfeiriad y byd ysbrydol, a hynny ym meddyliau lliaws mawr o bobl feddylgar. Gan iddo droi llawer at gyfiawnder, fel y mae lle i gredu ddarfod iddo wneud, fe ddisgleiria yntau fel y ser fyth ac yn dragywydd. Y gwr hwn, a safodd allan gyhyd yngolwg Cymru fel un o'r dis- gleiriaf o'i meibion, oedd dra hoffus yn ei deulu ei hun, ac yn ei gylchoedd mwy cyfyngedig eraill. Ei ddylanwad, hefyd, oedd ddymunol a daionus ym mhob cylch. Craffer ar adroddiadau y gwŷr a fu'n cyd-deithio âg ef i bregethu, fel y ceir hwy yn ei Gofiant. Penderfynodd ar y cychwyn fod yn gyson gydag addoliad teuluaidd. Dywedai ei briod ar ei ol na fethodd ganddo gymaint ag unwaith gadw'r ddyledswydd deuluaidd, er y gorfyddai arno gychwyn oddicartref weithiau yn blygeiniol iawn. Ni oddefid y plant fyth i fyned i orffwys y nos heb y weddi deuluaidd. Deuai rhai o'i gymdogion ar brydiau i'r gwasanaeth hwnnw. Disgwylid i bob un o'r plant, wedi tyfu ohonynt i fyny, fod a'i adnod newydd ganddo yn yr addoliad teuluaidd. Gwelodd y cyffelyb ar aelwyd ei dad ei hun. Coginid y bwyd ar y Sadwrn ar gyfer y Sul. Ceuid y siop yn adeg seiat. Ymdrechodd yn deg gyda chymorth ei briod i feithrin ei blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Amcanodd at