Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/264

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddynion cymwys i ymwneud â phob rhan o'r gwaith, a rhai hynod mewn gweddi, ac y ceid profiadau melus yn y seiadau, yn enwedig gan yr hen chwiorydd. Byddai Robert Jones y Penrhyn, Thomas Hughes Pen y cae, John Hughes Blaen fferam yn cymeryd rhan yn arweiniad y gân, heb fod yn sicr iawn ohoni, yr un ohonynt. Ni byddai Robert Dafydd ychwaith yn foddlon iawn i John Hughes ymyrraeth, am nad oedd yn aelod eglwysig, er mai efe oedd y sicraf wedi myned ohoni yn lân i'r pen. Gwellhaodd y ganiadaeth yn fawr ar ol amser y diwygiad. Y pryd hwnnw fe ddeuai rhai of gryn bellter i'r gwasanaeth. Dyna Sion Pitar, hwsmon y Gelli ffrydau, dyn cryf, wynebgoch, gwarrog. Hen lanc ydoedd Sion, a dau neu dri o gŵn defaid yn ei ddilyn, ac yn gorwedd yn dawel wrth ei draed yn y sêt fawr, gan godi eu llygaid at eu meistr yn bur debyg yn yr un dull ag y codai yntau hwy at y pregethwr. Gwelid Sion Pitar mewn blynyddoedd diweddarach yn Nazareth ger Caernarvon, ond heb y cŵn erbyn hynny.

Ar nos Sul mewn cyfarfod gweddi, wrth i Thomas Roberts roi allan y pennill, "Y Gwr a fu gynt o dan hoelion," ar ddiwedd y gwasanaeth, y torrodd y diwygiad allan yma. Torrodd John Jones Penygan allan i ddiolch a gweiddi nes i deimlad dieithr feddiannu'r lle. Adroddai drosodd a throsodd y pennill hwnnw:

Tu draw i'r llen wrth chwilo'r llyfrau
Pwy wyr na cheir f'enw innau?
Tan ddwyfron hardd yr Archoffeiriad
A gollfarnwyd draw gan Pilad.

Wedi i bethau lonyddu, fe alwyd seiat, ac arosodd tri ar ol, sef John Jones Penygan, Morris Williams (Meiric Wyn) Penygan, a Hugh W. Hughes Gwyndy. Wedi i un cyfarfod gweddi fyned drosodd, dyma Hugh Thomas y Castell yn dychwelyd yn ei ol i'r seiat, gan waeddi fel yr elai i mewn, "Bobl anwyl, fedra'i fyned. ddim cam pellach!" Gyda bod y geiriau dros ei wefusau fe dorrodd allan yn orfoledd. Yna fe ddechreuwyd canu, "Beth yw'r udgorn glywai'n seinio?" A chanu yn orfoleddus y buwyd am encyd o amser. Amryw o'r cyffelyb bethau a brofwyd gyda'r ymweliad hwn. Ychwanegwyd nifer a fu o fawr wasanaeth yn ol hynny. Yr oedd William Humphreys wedi dod i'r eglwys rai blynyddoedd cyn hynny, ond ar ol y diwygiad y dechreuodd efe weithio gyda chrefydd. Yr ydoedd argyhoeddiad William Humphreys yn un hynod braidd. Gweithio'r nos yr ydoedd yn Dorothea. Daeth yn wlaw trwm, a bu raid llechu yng nghwt y boiler, lle'r