Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Codwyd William Jones Nazareth yn flaenor tuag 1856—7. Oddeutu 1859—60, os nad cyn hynny, y dewiswyd William Griffith Brynbugeiliaid yn flaenor.

Fe glywodd amryw o breswylwyr y Wig donnau o gân yn dod dros y Foelgron yn hwyr un noswaith yn adeg diwygiad 1859. Bore dranoeth, ohonynt eu hunain, daeth llond y capel o addolwyr, a thorrodd yn orfoledd yn eu plith. Arosodd Sian Lewis yn y seiat gyda phregeth Morris Jones Bethesda. Wedi bod yn erlidgar tuag at ei gwr oherwydd crefydd. "Ymhle mae hi?" gofynnai'r pregethwr. "Dacw hi." "Yr hen beth acw?" Ie, dyna hi." Yr hen beth acw eisio dod i'r seiat ! Faint ydi 'doed di dwad?" "Pedwar ugain." "Wel, yr hen greadur digwilydd! Wedi bod yn gadach llawr i'r diafol am 80 mlynedd, ac yn awr yn rhoi dy hun i Iesu Grist. Rhag cwilydd i ti! Chymer o mohoni." A oedd y ddawn i adnabod ysbrydion gan Morris Jones? Ar darawiad dyna ef yn newid ei ddull. Y wyneb cuchiog yn ymsirioli, a dyna floedd, "Gwneiff, fe'i derbynith hi! Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid.' Fuasai neb yng nghreadigaeth Duw ond Hwn yn derbyn hon." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 446). Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 43; yn 1858, 50; yn 1860, 90; yn 1862, 111; yn 1866, 104.

Yn 1860 rhoddwyd caniatad i adeiladu capel, ar ol cryn ddadl yn y Cyfarfod Misol. Capel destlus yn mesur 13 llath wrth 9. Dyled o tua £50 eisoes. Swm y ddyled erbyn codi'r capel, £340. Talwyd £40 erbyn y flwyddyn nesaf. Yr agoriad ar Mehefin 25, 1861. Y pregethwyr, D. Davies Corwen, W. Prydderch a'i gyfaill, W. O. Williams Pwllheli.

William Evans Talymaes a fu yn arwain y canu er agoriad yr ysgoldy, efallai, hyd 1860, pryd y dilynwyd ef gan Thomas Griffith. Ffyddlon, egwyddorol. Symudodd i'r Baladeulyn, lle bu farw.

Ionawr 7, 1863, yn 22 oed, y bu farw John Jones Bryn troellwynt (? Bryntrallwm). Ei rieni, Griffith ac Elizabeth Jones. Un o ffrwythau y diwygiad, a gwr ieuanc addawol. Braidd yn henaidd ei ddull. Yn gosod argraff ddwys ar ei ddosbarth. Clywid ef weithiau mewn ymdrech â Duw mewn lleoedd neilltuedig. Ymwelydd â'r claf. Cofiadur pregethau. Dechreuodd bregethu, a bu yn yr ysgol gydag Eben Fardd am dros flwyddyn, ond torrodd i lawr o ran ei iechyd. Torrodd allan yn orfoledd wrth iddo holi'r