Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/295

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ddiflas o anhawdd. Cenir hi drwyodd gan gwafrio y slyrs. Bu un o ŵyrion Robert William, sef Richard Roberts Brynllys, yn arwain y canu yn Nebo am dymor byrr cyn myned ohono i wlad y canu tragwyddol..

Dyma ni wedi rhoi tro drwy'r hen flaenoriaid a'r hen godwyr canu. Gadewch i ni weled eto pwy sy'n gwrando yma. Dacw Marged Dafydd, dros gant oed. Mae newydd gael tynnu ei llun ar ben ei chanfed flwydd. A chedwir ef yn barchus ym mharlwr y tŷ capel. Yr oedd hi yn un o hen wrandawyr Robert Roberts Clynnog. Yr oedd yn un o'r rhai brofodd ddiwygiad mawr Beddgelert a diwygiadau Brynengan, ac wrth gwrs ddiwygiad '59, oedd â'i donnau ar y pryd heb lwyr gilio ymaith. Prin yr enwir Iesu Grist a Chalfaria nad yw'r hen wraig yn yr hwyl ar unwaith. Ar y ffordd o'r oedfa sieryd yn uchel am y bregeth, ac yn aml y mae yn gorfoleddu. Mae hi a Mari Wmffra gyda'u hetiau silc yn y ddwy sêt nesaf i'w gilydd o flaen y pulpud, ac mewn hwyl fawr heno yn gwrando'r pregethwr dieithr.

"Codwyd Richard Roberts Penpelyn yn flaenor gyda Richard Griffith; ond nid oedd yn gweithredu fel blaenor, er yn eistedd yn y sêt fawr, ac yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r achos. "Hugh Jones Blaenyfoel yw trysorydd yr eglwys. Heb fod yn flaenor, y mae ef yn y sêt fawr bob amser, ac ni wneir dim heb ymgynghori âg ef.

"Dacw William Griffith Bryneithin, taid y Parch. H. E. Griffith Croesoswallt, yn un o'r seti o flaen y pulpud. Gelwid ef bob amser i ddechreu'r cyfarfod gweddi, pan gymerai ran, am ei fod yn medru rhoi'r synwyr wrth ddarllen. Yn ei ymyl y mae Griffith Roberts Corsyllyn, un o'm hathrawon cyntaf. Nid oedd neb y byddai yn well gennyf ei glywed yn gweddio. Ond awn yn rhy faith wrth sylwi ar eraill bob yn un ac un.

"Yr oedd, pa fodd bynnag, amryw gymeriadau hynod iawn yn perthyn i gynulleidfa Nebo y pryd hwnnw, heb fod yn aelodau, rai ohonynt yn athrawon, rai heb ddod i'r pregethau ond yn achlysurol. Dacw Harry Prisiart, y dyn a lleiaf o deimlad crefyddol ynddo a gyfarfyddais erioed,—o'r ddaear yn ddaearol. Daw i'r bregeth yn achlysurol, ac y mae yma heno. Ymhen rhai blynyddoedd ar ol hyn yr oeddwn yn myned i Benygroes ar hyd llwybr