efe ei fywyd yn y dull hwnnw, ei ateb oedd y teimlai rhywbeth o'i fewn yn ei gymell i hynny.
Nis gall ond pwyntel Ysbryd Duw
Ddarlunio
'Roedd diniweidrwydd yn ei wedd
A'i drem fel gwên y nefol hedd
Bob hwyr a bore byddai ef
Yn ffyddlawn offeiriadu
Pan gyda'i waith, ynghanol gwŷr
Anuwiol eu harferion,
'Roedd awyr ei gymdeithas bur
Yn lladd rhegfeydd a llwon
Ei yrfa Gristionogol fu
Yn fodrwy o ffyddlondeb;
Ei bresenoldeb yn y Tŷ
Oedd ddeddf o ran cysondeb.
Ei gadair dan y pulpud oedd
Oddiarni, heb na llef na bloedd,
Y llywiai mewn dylanwad
Ei wallt â'i law a esmwythâ,
Ac, wedi rhoi pesychiad,
Yn araf, bwyllog, codi wna
I adrodd gair o'i brofiad;
Ei eiriau cynes, syml, dirith,
Ei wedd a'i dôn ddifrif-ddwys,
Ddisgynnant fel adfywiol wlith
Ar holl rasusau'r eglwys.
'Roedd achos Bethel iddo ef
Fel tyner ganwyll llygad
Mae'n mynd! ond beth yw'r wên o wawl
Ymdaena dros ei wyneb?
O! Bethel, Bethel, cwymp i lawr
I'r llwch, a thrwy dy ddagrau,
Gweddia ar dy Flaenor Mawr
Am iddo lanw'th fylchau.—(Glan Llyfnwy).
O ddechreu'r flwyddyn 1881, Bethel yn ymwahanu oddiwrth Hyfrydle fel taith, gan fyned arni ei hun. Rhif yr eglwys yn 1880, 324.
Yn 1883 y dechreuwyd cyhoeddi Adroddiad blynyddol o weithrediadau yr eglwys. Mae Miss Williams yn ei hysgrif hi yn crynhoi ynghyd y prif bethau allan o'r Adroddiad hwn, a dilynir hi yma yn hynny. Y flwyddyn hon y ffurfiwyd cangen-eglwys Saron. Ymadawodd 47 o aelodau Bethel yno. Rhif yr eglwys ym Methel ar ddechreu'r flwyddyn, 352; ar ei diwedd, 307. Fe