had yr eglwys, i blith y nifer yma. Plant yr eglwys, 51. Rhif yr ysgol, 127, 13 ohonynt yn athrawon a 3 yn athrawesau. Cyfartaledd y presenoldeb, 75. Y gynulleidfa, 154. Eisteddleoedd, 165; yn cael eu gosod, 110. Y ddyled, £123. Y blaenoriaid ddewiswyd ar sefydliad yr eglwys: R. Benjamin Pritchard, W. Price Griffith, Griffith Roberts a Hugh Jones. Enwir y brodyr yma fel rhai ddarfu weithio yn egniol ynglyn â chychwyniad yr achos: Henry Jones, John Parry, William Jones Gistfaen, John Jones Victoria Cottage, Robert Prichard a John Jones Maldwynog.
Yn Awst, 1883, fe dderbyniwyd amryw i'r eglwys fel ffrwyth pregethu Richard Owen. Dyna'r eglurhad ynte ar y nifer eithriad- ol a nodir ar ddiwedd y flwyddyn fel wedi eu derbyn o'r byd. Trefnwyd Saron yn daith â Nebo. Aeth y lleoedd hyn arnynt eu hunain yn 1888.
Ymadawodd Hugh Jones ym Medi, 1886. Efe oedd arweinydd y gân yma. Yr oedd, hefyd, yn flaenllaw gyda chyfarfodydd y plant, a meddai ar fedr nid bychan yn y gwaith o'u dwyn ymlaen.
Adeiladwyd y capel yn 1887. Y draul, £800. Rhif yr eglwys, 85; plant yr eglwys, 50. Yr hen ddyled wedi ei thalu. Dyled y capel yng nghyfrif y flwyddyn ddilynol, a nodir ef fel £760. Yn Ebrill, 1887, y dewiswyd Thomas Roberts, gynt o'r Baladeulyn, yn flaenor, wedi gwasanaethu yn y swydd yno er cychwyniad yr eglwys.
Dechreuodd Hugh Arthur Jones bregethu yn 1894, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol yn 1896.
Daeth Griffith Hughes y cenhadwr yma,Ionawr, 1895.
Yn ystod 1894-5 fe ymunodd amryw o bobl mewn oed â'r eglwys. Ac yn nechre 1895 fe gymerodd gradd o ddeffroad le ymhlith y bobl ieuainc fel ffrwyth cyfarfodydd gweddi wythnos gyntaf y flwyddyn. Rhif yr eglwys yn 1894, 115; yn 1895, 120. Y ddyled erbyn 1895, £530.
Yn Nhachwedd 22, 1897, y bu farw Thomas Roberts, yn 66 oed. Ymhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Hugh Jones y daeth efe yma, a galwyd ef i'r swydd o arweinydd y gân yn ei le ef. Bu gyda'r gorchwyl hwnnw hyd ei afiechyd diweddaf. Yr ydoedd wedi ei eni yn y Tynewydd ar ochr y Cilgwyn, a chafodd feithriniad hyfforddiol John Jones yn eglwys Talsarn yn nyddiau ei ieuenctid.