Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

FE gynwysir yn hen weithredoedd y capeli, hŷn dyweder na'r flwyddyn 1830, rai pethau o bwys i'w gwybod, a rhai pethau difyr i'w gwybod. Y mae nifer o'r hen weithredoedd hynny heb fod yng nghist y Cyfarfod Misol, ac yn ddiau ym meddiant hwn a'r llall. Mi fyddwn rwymedig am y cyfle i ddarllen un neu ragor ohonynt.

Y mae'r Cyfarfod Misol wedi dechre cyhoeddi taflen cyfrifon er y flwyddyn 1854. Daeth y rhai'n allan ar wyneb un ddalen led faintiolus yn ystod 1854-73. Y mae'r taflenni hynny o bwys neilltuol i'r hanes. Codwyd gryn swrn o'r cyfrifon yn y gyfrol hon allan ohonynt, a chyda'u cymorth hwy cywirwyd lliaws o bethau a fuasai hebddynt wedi dianc i mewn i'r hanes yn anghywir fel yr oeddynt. Methu gennyf a tharo wrth daflenni y blynyddoedd yma: 1855, 1857, 1859, 1861, 1863-5, 1867, 1872. Mi fyddwn rwymedig am hysbysrwydd ynghylch un neu ragor ohonynt.

Bu farw John Robert Jones Bangor, ysgrifennydd y Cyfarfod Misol, yn 1845. Bu cyfrol o gofnodion ysgrifenedig y Cyfarfod Misol o'i waith ef yn fenthyg gan y Dr. Owen Thomas. Yr ydoedd ef dan yr argraff ei fod wedi ei dychwelyd; ond ni dderbyniodd y teulu mohoni. Gwnaethum lawer o ymchwil am y gyfrol hon, ond yn ofer. Fe ddywedir fod y cofnodion o'i waith ef yn neilltuol o fanwl a llawn. Mi fuasai ei gwerth i'r gwaith hwn yn fawr, ac mi fuaswn yn ddiolchgar iawn am hysbysrwydd yn ei chylch.

Gyda'r eithriad o gofnodion dau Gyfarfod Misol neu dri, y mae'r cofnodion ysgrifenedig yn dechre gyda Chwefror, 1852. Hefyd y mae bwlch yn y cofnodion o Ebrill 1859 hyd Mai 1862. Nid yw'n anichon fod hen gofnodion mewn ysgrifen, heb fod yn y llyfrau cofnodion, ym meddiant rhywun neu gilydd ag y buasai'n wiw ganddynt roi eu benthyg i amcan yr hanes hwn. Yn achlysurol iawn yn unig, ac yn brin, y cyhoeddid y cofnodion yn y Drysorfa cyn 1862. Ac o hynny ymlaen hyd nes y dechreuwyd eu cyhoeddi yn y Goleuad yn 1869, nid ymddengys cofnodion mwy nag oddeutu'r hanner o'r Cyfarfodydd.

Mae'r amseriadau a roir i rai yn dechre pregethu rhwng Chwefror, 1859, a Medi, 1867, wedi eu codi o restr yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol.

Fe gyfleir ar ddiwedd ambell i adran gyfeiriad at fan mewn cylchgrawn neu bapyr wythnosol, neu gofiant neu lyfr o hanes. Weithiau nid yw'r adran honno namyn crynhoad allan o'r fan a grybwyllir; weithiau y mae rhyw gyffyrddiad neu gilydd wedi ei