Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BRYNAERAU.[1]

MAE gwreiddiau Brynaerau wedi eu cydblethu â gwreiddiau y Capel Uchaf. Deuai rhai oddiyma ac acw drwy'r ardal i'r gwas- anaeth yn y lleoedd cyntaf y cynelid ef; a chynelid y gwasanaeth nid yn hollol yn y lle mwyaf canolog i bawb, ond yn y cyfryw le a ellid gael. Yr oedd y Foel, sef y Foel-ddryll, fel y bernir gan rai, preswylfod Hugh Griffith Hughes, a'r ty a achlesodd yr achos gyntaf, ar y ffordd o Frynaerau i'r Capel Uchaf, a'r ffordd o Lanllyfni i bentref Clynnog. Rhyw dri chwarter milltir o gapel Brynaerau, a milltir o'r Capel Uchaf. Y Berthddu bach sydd rhyw hanner milltir o gapel Brynaerau i gyfeiriad Clynnog. Gellir barnu i'r achos fod am flynyddoedd yn y Berthddu bach, os nad yr holl amser hyd yr aeth Hugh Griffith Hughes i'r Bryscyni isaf. Fe gesglir fod y rhan fwyaf o'r swp bychan o grefyddwyr a ddeuai i'r Berthddu bach yn bobl o ardal y Capel Uchaf, er fod y lle yn agosach i bobl Brynaerau, canys yn y Capel Uchaf yn y man y gwreiddiodd yr achos yn amlwg. Wedi cychwyn yn y Capel Uchaf, elai rhyw nifer o Frynaerau ac o'r holl ardaloedd oddiamgylch yno.

Cynelid ysgol Sul yng nghapel y Bedyddwyr ym Mhontllyfni flynyddoedd cyn codi capel Brynaerau. Elai rhai o'r Methodistiaid i'r ysgol honno hyd nes y codwyd capel ganddynt iddynt eu hunain, yn ol un adroddiad. Fe godwyd ysgol mewn tŷ annedd ger Bont- llyfni gan y Methodistiaid, pa ddelw bynnag, er nad yw'n glir ai codi'r capel ai cynt y gwnaed hynny. Y rhai fu'n amlwg efo'r ysgol hon yn y tŷ oedd Morris Marc, Harry Dafydd Penybryn, Griffith Humphreys Garnedd, Robert Hughes Ffridd, a William Williams Caemorfa.

Yn 1805 yr adeiladwyd y capel yn ol Canmlwyddiant Ysgolion Sabothol Clynnog, &c. Amserwyd y brydles yn 1807. Adeiladwyd y capel ar y llecyn yr arferai ieuenctid ac eraill ymgasglu ynghyd at wahanol ymrysonfeydd, a dyma safle y capel presennol. Maintioli y llecyn, 50 llath wrth 15. Yr oedd y llecyn tir yn gysylltiol â thý a elwid Lôngoch ger fferm Lleuar. Y rhai amlwg ynglyn âg adeiladu'r capel oedd Sion Thomas Ffridd bach, Richard Hughes Ffridd fawr, Thomas Griffith Pentwr, Griffith Owen Garnedd,

Morris Marc Llynygele, a Harry Dafydd Penybryn. Harry Dafydd

  1. Ysgrifau gan Mr. R. R. Williams ac "Aelfryn"; detholion o gofnodion yr eglwys gan Miss Williams Brynhwylfa; ymddiddanion ag amryw.