Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'i fewn. Gan farchog yn hoew ar geffyl Robert Ellis, ni ddiferodd gair llym dros enau John Thomas.

Tebyg fod un o leiaf o'r hen flaenoriaid wedi marw pan alwyd y Capten Lewis Owen a John Griffith Ysgubor fawr yn flaenoriaid yn 1830.

Fe nodir yn y Drysorfa am 1832 fod yna ychwanegiad o ugain at rif yr aelodau ym Mrynaerau yn niwedd mis Mawrth, sef yn nhymor y diwygiad, a rhywbryd tua'i ganol. Rhaid cofio fod rhif yr eglwys yn gymharol fychan y pryd hwnnw, cystal a bod yn anhaws myned i mewn drwy'r porth nag yn awr.

Ym mis Tachwedd 1849 y dechreuodd Thomas Ellis (Llanystumdwy) bregethu. Symudodd i Pennant ym mis Mai 1850.

Ym mis Mai 1854 y sicrhawyd y brydles ar y capel am 699 o flynyddoedd o'r dyddiad yma.

Dyma gerbron hanner dwsin o lyfrynnau bychain, yn cynnwys cyfrifon yr eglwys am y blynyddoedd 1834-55. Syniad yr hen athronyddion ydoedd fod pob dirgeledigaethau mewn rhifedi. A diau fod llawer o hanes Brynaerau yn chware oddeutu'r cyfrifon hyn. Er hynny ni wnant ond chware mig â'r dieithrddyn. Ond ni wneir monom ddim tywyllach am yr hanes oherwydd cip o olwg arnynt yn eu chware! Yn Gorffennaf 11 y dechreua'r cyfrifon, a dyma'r manyn cyntaf yng nghyfrif Awst: Talwyd am fwyd a diod y mis uchod, 8s. 8c. Un oedfa geid yn gyffredin ar y Sul. Er hynny, yr oedd bwyd a diod Awst yn ddim llai nag 11s. 3c., canys rhaid cofio ei bod yn adeg y pregethu teithiol, a bu Lewis Morris yma, ac ar dro arall Thomas Pritchard a Robert Owens gyda'u gilydd. Mae'r casgl misol yn ystod y flwyddyn yn amrywio o 18s. 6c. i £1 6s. 2c. Ymhlith y pregethwyr a fu yma fe geir Owen Thomas am oedfa Sul, 1s. 6c.; ac ar nosweithiau'r wythnos, John Hughes a'i gyfaill, 2s. 6c. ac Isaac James, 1s. 6c. Ymhlith pregethwyr 1835 y mae David Rolant a Thomas Havard a'i gyfaill. Nid oes enw lle ynglyn âg enwau'r pregethwyr. Yn Ionawr, 1836, y mae bwyd a diod yn fanynau gwahaniaethol, y cyntaf yn 14s. 8c. a'r ail yn 2s. 6c. Bwyd a diod y Rhagfyr o'r blaen oedd rhai'n, pan y bu yma gyfarfod ysgolion, a dau gyfaill ddwywaith ar eu taith. Deunaw ceiniog yw'r "casgl mis" yn ochr y taliadau, sef yr hyn a delid i'r Cyfarfod Misol. Mewn llaw yn niwedd 1836,