Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ddoethineb honno sydd oddi uchod. Gwr crâff, er hynny, oedd John Griffith, fel y ceir golwg pellach arno eto, a gwr a'i eiriau yn gafaelyd fel bachau dur. Bu John Jones Carneddi ym Mrynaerau y pryd hwn efo'i "gerbyd o goed Libanus," gan waeddi ar y bobl, "Bwciwch yn y cerbyd, bobl!" Wrth fyned adref o un oedfa, methu gan John Thomas beidio â throi i ben carn gerryg i weddio, ac wedi myned, yno y bu efe hyd y bore. Daeth John Thomas ar ol hynny yn flaenor, sef, yr ail o'r enw, ac yn weddiwr nodedig.

Gwraig hynod oedd yr Ann Roberts y cyfeiriwyd ati. Yr oedd ei mam yn gyfnither i Robert Roberts, ac nid ydoedd hi ond un o liaws o rai synwyrlawn a galluog ac ymroddedig i grefydd ymhlith y teulu nodedig yma. Yr oedd ei gwr, Dafydd Owen, yn aelod yn Ebenezer, ac aeth hithau yno ato ymhen amser. (Gwel- er Ebenezer).

Yn 1861 fe wnawd y capel a'r tŷ capel o newydd ar draul o £420. Buwyd yn addoli yn y cyfamser mewn pabell a wnawd o goed yr hen gapel. Y capel o ran ffurf yn wahanol i'r hen un, ac yn helaethach. Ni roddwyd oriel yn y newydd, ac un drws oedd iddo, sef yn y talcen gorllewinol, fel yn awr. Eisteddai y gynulleidfa gan edrych ynghyfeiriad y drws. Nid oedd dim dyled wedi bod ar yr achos ers 1853 o leiaf. Y ddyled yn 1865, £340. Erbyn 1878 tynnwyd hi i lawr i £85.

Yn 1867 galwyd William Jones, ieu., Bryngwdion, W. Pugh Owen Lleuar bach, a J. R. Edwards (yn awr o Criccieth) yn flaenoriaid. Bu'r ail ohonynt farw yn ieuanc; bu'r olaf ar ol hynny yn siroedd Fflint a Dinbych; y cyntaf a arosodd rai blynyddoedd cyn symud ohono.

Yn 1870 y dewiswyd David Hughes Mur mawr yn flaenor. Gwr o synwyr a gwybodaeth ac ysbryd crefyddol, a deheuig yng nghyflawniad gwahanol ddyledswyddau. Bu farw Mai 2, 1880, yn 45 mlwydd oed.

Mai 11, 1870, y bu farw y Capten Lewis Owen, yn 83 mlwydd oed. Pan arferai hwylio i Lundain, drwy ei gysondeb yn y moddion a'i waith yn casglu at gynnal pregethu yn y lle, fe ddaeth yn gyfeill- gar â James Hughes yr esboniwr. Wrth weithio yn y dull hwnnw gyda'r achos y daeth i'w feddwl ef nad oedd hynny arno'i hun ddim yn ddigon, ac yn y cyfwng hwn yn ei hanes y cafodd oleu ar bethau