Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae gan Mr. Henry Hughes Tanrallt gyfres o ysgrifau difyr yng Nghymru y Plant am 1903-4, ar gymeriadau Brynaerau. Un ohonynt yw Dafydd Gruffydd neu Dafydd y Swan. Eisteddai ef wrth fraint yn sêt fawr Brynaerau. Y Swan yw enw'r pentref bychan ar ffordd Clynnog fawr lle preswyliai. Yr oedd Dafydd dros chwe troedfedd o daldra ac agos i lathen o ysgwydd i ysgwydd. Wrth ddychwelyd o'i orchwyl un noswaith fe welai ysgyfarnog yn myned i'w thwll. Gosodai wifren croglath wrth enau y ffau, a daliodd yr ysgyfarnog. Pwy oedd yn edrych arno yn ei thynnu yn rhydd ond prif geidwad helwriaeth Arlwydd Niwbwrch. Bu raid i Ddafydd druan fyned gydag ef i ŵydd yr Arlwydd. Gorchmynwyd hebrwng Dafydd i garchar Caernarvon ar ol dodi pryd o fwyd digonol o'i flaen, canys gwr anrhydeddus yn ei ffordd neilltuol ei hun oedd yr Arlwydd. Dyddiau'r cwnstabliaid oedd y rheiny, a danfonwyd am y cwnstabl, sef pwt o amaethwr. Ymaith â hwy. Wedi myned yn deg allan drwy'r porth, gorweddodd Dafydd ar y glaswellt, ac ni chyfodai er cwnstabl na ffon, er na rowd mo honno ar war Dafydd chwaith, canys gorchwyl rhy feiddgar fuasai hynny. Ymaith â'r cwnstabl i ymofyn ei gert. Eithr ni chodai Dafydd oddiar ei eistedd, a bu raid cyrchu gwŷr i'r amcan. Dyma Dafydd o'r diwedd yn y cert yn eithaf llonydd, ond gyda'i feddwl dyfeisgar yn effro. Erbyn myned ohonynt rhyw chwarter milltir o ffordd, yr oedd Dafydd yn eistedd ar draws y trwmbel, gyda'i draed o fewn ei glocsiau mawr yn pwyso ar y naill ochr a'i gefn ar y llall. Yna, fel rhyw Samson arall, efe a ymestynodd ac a ymwthiodd, nes fod ochrau'r cert yn rhoi, ac yn cloi yr olwynion fel na symudent. Diangodd Dafydd yn groeniach, ac ni fu air o sôn. Tebyg mai mewn tymor diweddarach ar ei oes yr eisteddai Dafydd Gruffydd yng nghornel y sêt fawr, wedi ennill ei hawl i'r cyfryw anrhydedd drwy orchestion amgenach na'r un a gofnodir yma. Eithr nid anheilyngach gweithred Dafydd nag un neu ddwy o eiddo Samson. Un o wŷr craffaf sir Gaernarvon oedd yr Arlwydd Niwbwrch yn ei ddydd, a diau ganfod ohono fod ei gymydog Dafydd Gruffydd yn haeddiannol o well triniaeth na'i gyfleu yng nghell carchar Caernarvon.

Un arall o gymeriadau Mr. Henry Hughes yw Robert Jones Un Fraich. Pan wrth y gorchwyl o lifo pladuriau yr anafwyd braich Robert Jones gymaint fel y gorfu ei thorri ymaith. Cyflawnodd Robert Jones fwy o orchestwaith efo'r un fraich oedd yn