Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond nid oedd addfedrwydd yn yr eglwys i hynny. Gan nad oeddys yn foddlon iddo fyned i'r pulpud, gadawyd iddo fyned i'r sêt fawr yn ddirwgnach, ac actiai yno fel blaenor yr eglwys, heb yngan gair wrth y Cyfarfod Misol. Yr oedd yn ddirwestwr aiddgar, ac elai oddiamgylch i areithio ar y pwnc. Gelwid ef weithiau yn Robert Jones y Druid, am y preswyliai mewn tŷ o'r enw hwnnw, tŷ a fwriadwyd i fod yn dafarn, ond y gwrthodwyd trwydded iddo. Arferai Robert Jones a dweyd ddarfod iddo gymeryd y Druid uwchben y diafol. Gelwid am ei wasanaeth yma a thraw i gynnal seiadau. Gwr dyfeisgar, dawnus, defnyddiol yn ei ddydd oedd Robert Jones. Eithr fe dynnai ei dymer wyllt ef i drybini, ac oherwydd rhyw ffrwgwd neu gilydd y danfonwyd William Herbert, William Hughes Talysarn, a Henry Jonathan Caernarvon i'w ddisgyblu ar y dydd olaf o Ebrill, 1874, ebe'r cofnod. Rhoes ei gyfrif i mewn ar y 13 o Ebrill, 1881. Bu aml daiog mewn swydd a wnaeth lai o les na Robert Jones Un Fraich.

Yn 1873 y dechreuodd W. Jones bregethu. Gweini y bu am bymtheng mlynedd o'i oes. Bu'n pregethu am tua phedair blynedd. Torrwyd ef i lawr o ran ei iechyd ar ol bod am dair blynedd a hanner yn y Bala. Llafuriodd am wybodaeth cyn dechre ar ei gwrs fel pregethwr. Cymeriad addfwyn, a phregethwr difrif. Sisialodd ei deimlad allan ychydig cyn huno yn y pennill, "Mi welaf yn ei fywyd y ffordd i'r nefoedd fry." Bu farw Mehefin 12, 1879, yn 32 mlwydd oed.

Yn 1876 y dewiswyd John Thomas Aber, W. Davies Hendre bach ac Owen Roberts Bryncynanbach yn flaenoriaid. Owen Roberts a fu farw, Ionawr 6, 1886 yn 61 mlwydd oed.

Diddichell, da, heddychol—oedd, a gwr
Llawn hawddgarwch nefol:
'Roedd Owen yn wir dduwiol
Ydyw iaith y byd o'i ol.—Glan Llyfnwy.

William Davies a fu farw, Medi 14, 1898, wedi dangos mesur da o gysondeb yn ei swydd.

Yn 1877 y prynnwyd darn o dir cysylltiol â'r capel yn gladdfa. Y brydles am 99 mlynedd o 1877.

Yn 1879 rhoddwyd darn yn y pen gorllewinol i'r capel. Y draul tua £550. Yr holl ddyled yn 1879 yn £752, gan gynnwys £85 o'r hen ddyled.