Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pan gychwynwyd achos yn y Pentref aeth Ebenezer Thomas a James Williams yno, a cholledwyd Seion yn ddirfawr, er mai ar ol hynny y cyrhaeddasant hwy eu dylanwad mwyaf. Aeth Seion yn daith gyda'r Pentref a Chapel Uchaf ar agoriad y Pentref. Fe fyddai Eben Fardd yn dod yn achlysurol i Seion gyda'r pregethwr ar nos Sul ar ol cychwyn yr achos yn y Pentref. Un tro fe ddaeth gyda'r Capten Hughes, yr hen bregethwr o Nefyn, a dechreuodd yr oedfa iddo. Yn y seiat ar ol fe lediodd Eben Fardd bennill ar bwnc pregeth y Capten, mae'n debyg:

Lle bynnag byddai ar y llawr.
Lle bynnag byddai byw;
Na fydded imi funyd awr
Er dim anghofio Duw.

Eithr ni a ddychwelwn am ennyd at gyfrifon 1856—61. Yn blaenori manylion y blynyddoedd hyn, fe geir cyfanswm derbyniadau a thaliadau blynyddol y blynyddoedd 1852—9. Cyfanswm y derbyniadau am 1852, £11 2s. Olc., a'r taliadau, £11 2s. 1c. Erbyn 1859 y mae'r derbyniadau yn £13 14s. 1c. a'r taliadau'n £14 4s. 4c. Mae'r arian seti a rhent y tŷ yn gynwysedig yn y derbyniadau, ac yn 1859 fe nodir eu swm, sef £2 11s. 9c. Cadwer mewn cof mai nifer yr aelodau yn 1856 oedd 70 ac yn 1860, 65. Y taliad cyntaf yn 1856 sydd i Hugh Jones Llanerchymedd, sef 2s. am oedfa nos Sadwrn. Evan Williams Pentreuchaf y Sul dilynol. (un oedfa cofier bob amser), 4s. William Roberts Clynnog ddwywaith ym mis Ionawr, 3s. bob tro. Chwe gwaith y ceir enw William Roberts i lawr y flwyddyn hon. Wyth oedfa gafwyd yn ystod y flwyddyn ar nosweithiau'r wythnos, ac ymhlith y pregethwyr hynny y mae Joseph Thomas Carno. Y mae Thomas Williams Rhyd-ddu â 3s. gyferbyn a'i enw erbyn hyn. Erbyn 1856, John Owen Ty'n llwyn, 3s. 6c. Dyma daliadau cyfarfod pregethu Mercher a Iau, Awst 11 a 12, 1858: William Herbert, 10s.; Morris Hughes, 10s. ; William Hughes, 10s.; John Griffith, 10s. Yr oedd William Herbert yma drachefn am oedfa'r Sul y mis dilynol. Rhagfyr 26, 1858, yr oedd yma ryw "Mr." Lloyd Llundain, 2s., sef yr un Sul a John Owen Ty'nllwyn. Yn 1859 fe ymddengys enw "Rice Jones Felin;" ac yn 1860 dyma Thomas Hughes Machynlleth yn dod trwodd ar ei daith. Y mae Evan Owen Talsarn, a ddechreuodd bregethu yma, yn cael ei alw yn o fynych. Gwr y gwerthfawrogir ei ddawn yw David Davies Seismon. Erbyn 1860, Thomas Williams Rhyd-ddu, 4s. Gorffennaf 13, dyma David Davies ac Evan