anaeth gorffennol. Gyda'r llyfr corn yn ei law yr arweiniai'r athraw ei hen ddisgyblion ymlaen ar hyd risiau gwybodaeth. Bachgen cyflym oedd James, ac ni fu'n hir cyn rhagori ar bawb yn yr ysgol mewn deall a gwybodaeth. Griffith Humphreys oedd y prif holydd ar ddiwedd yr ysgol, a William Dafydd oedd yr arolygwr cyntaf.
Ymhen amser, gan deimlo'r ystabl yn lle anghyfleus, fe benderfynnwyd gwneud cais at y person am gael cadw'r ysgol yn Eglwys y Bedd, sef y gyfran hynafol o'r Eglwys. Disgrifir y person hwnnw fel hen lanc rhadlon a braf a rhyddfrydig ei ysbryd, ac ni omeddodd y cais. Yr oeddys nid yn unig yn fwy cysurus yn Eglwys y Bedd, ond hefyd yn fwy llwyddiannus. Oddeutu'r flwyddyn 1825 yr aethpwyd yno.
Bu dau enwad arall yn gwneud cais i ymsefydlu yn y pentref. Y Wesleyaid yn gyntaf, yn ol Richard Jones. Yn ol Eben Fardd yr oedd yma bregethu achlysurol gan y naill blaid grefyddol a'r llall ers "o ddeugain i hanner can' mlynedd " cyn 1844. Tebyg ei fod ef yn cynnwys y Methodistiaid yn y pleidiau hyn. Cynelid y cyfarfodydd yn yr hen ystabl yn achlysurol, ac yn yr awyr agored, mae'n ddiau. Yr oedd y pregethu yn wresog. Cof gan Richard Jones am un gwr yn pregethu yn yr ystabl, gan sefyll ar ystôl, a rhag cwympo ohono safai hen wr penwyn o'r enw Thomas Ellis. ar ei draed o'i flaen, a dodai'r pregethwr bwysau ei law ar ei ben. Dywed Richard Jones ddarfod i'r Arglwydd fendithio tŷ Thomas Ellis, fel y bendithiodd dŷ Obededom gynt, a bod ei hiliogaeth ef yn flaenllaw gyda'r enwad hyd y dydd hwn. Gwnawd ymdrech teg i ymsefydlu yma, a bu gradd o lwyddiant am dymor ar y gwaith, ond troes allan yn fethiant rhagllaw. Yr Anibynwyr a ddaethant yn nesaf, ebe Richard Jones. Cynelid y gwasanaeth ganddynt hwythau yn yr ystabl, gyda gradd o lwyddiant ar y cychwyn, ond methu ganddynt barhau.
Drwy ddyfalwch gyda'r ysgol y dodwyd sylfaen llwyddiant i lawr. A bu'r ysgol Sul yn foddion i awchlymu'r awydd am wybodaeth gyffredin. Cynelid ysgol ddyddiol dan nawdd yr eglwys, ond un bell o fod yn effeithiol. Bu rhyddfrydigrwydd y person, pa ddelw bynnag, yn foddion i ddwyn Hugh Owen o Sir Fon yma fel ysgolfeistr, ac yntau yn ymneilltuwr. Gwr ymroddgar a chrefyddol y profodd ef ei hunan. Ymunodd â'r ysgol Sul ac ymroes