gethwr, yn rhoi pwyslais ar y cyferbyniad annisgwyliadwy â'r pregethwr poblogaidd neu urddasol. Gwr ystyriol o deimlad arall, er hynny, ydoedd William Jones, a boneddigaidd ei ysbryd. Fe adroddir am dano yn cyrraedd y tŷ capel un arddeg ar y gloch nos Sadwrn, wedi cerdded yr holl ffordd. Gwraig y tŷ yn dod i'r drws. Yntau yn ameu. "Pwy ydych yn ei ddisgwyl at y fory?" Enwi rhywun arall. "O, diolch i chwi, nos dawch!" a throes yn ol yn y fan. Cyrhaeddodd adref bedwar ar y gloch y bore. Camgymeriad ydoedd o du'r wraig, a chafodd yntau lythyr yn datgan gofid am hynny. Nis gallai oddef bod yn faich ar neb. Nid absennai â'i dafod chwaith. Fe amddiffynai bawb yn ei gefn, pa beth bynnag a wyddai efe am eu barn hwy am dano ef ei hun. Yr oedd iddo syniadau eithaf pendant ar bethau mewn byd ac eglwys, er hynny, a daliai ei egwyddorion yn nydd prawf, er na fynnai draethu barn gyhoeddus ar bynciau dadleuol. Wrth nesu at y diwedd, fe ddywedai wrth frawd ynghyfraith,—"Mae'r sylfaen yn dal, Thomas: mae'r graig odditanodd." Ei noswaith olaf, ebe cyfaill wrtho,—" Os ydych yn teimlo bod pethau natur yn cilio, mae rhywbeth yn aros: Fy nhrugaredd ni chilia, a chyfamod fy hedd ni syfl." "Dyna ddigon," ebe yntau'n dawel. Ac yn y man, fe aeth i ŵydd Bugail mawr y defaid.
Fe dderbyniodd D. Forester Williams alwad yma o'i gartref ym Metws y coed yn 1884. Yn 1892 fe symudodd oddiyma i'r Amerig. Yn 1884 y derbyniwyd Morris Williams gan y Cyfarfod Misol fel pregethwr., Yn 1895, galw Pierce Owen yn weinidog.
Fe ddaeth William Morris Cwmglas yma ar gorfforiad yr eglwys, yn flaenor yn y Capel Coch cyn hynny. Fe chwanegwyd ato ar gorfforiad yr eglwys, Gruffydd Dafydd Cwmeilir a Sion Dafydd y Garreg wen. Yn 1843 dewiswyd Ellis James Ty gwyn, a aeth oddiyma yn fuan i'r Graig. Yn 1854—5, yn ol argraff ar ei gofgolofn, y dewiswyd Hugh Lewis, y blaenor wedi hynny yn Gorffwysfa. Galwyd ef yn flaenor yno ar ei chorfforiad yn 1867, newydd fyned ohono i'r Nant isaf. Yn 1859 dewiswyd Morris Williams Tan y dderwen, W. Griffith y Stamps, William Parry Jones a John ei frawd; yn 1869, R. Jones Griffith; yn 1878, W. Morris yr Hafod a Hugh Davies y Tŷ isaf; yn 1891, E. Evan Jones, a aeth oddiyma i Frynrefail; yn agos i'r un pryd daeth H. Robert Owen yma o'r Preswylfa